<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:47, 1 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ond yr hyn y mae yn ei ddangos, onid yw, yw bod Brexit yn cynnig cyfle, yn ogystal â her, ac os awn ni i’r afael â’r trafodaethau gydag ysbryd optimistig a chadarnhaol, yna rydym ni’n debygol o gyflawni llawer mwy? Y broblem gyda'r Prif Weinidog yw ei fod e’n gwynwr. Dim ond y problemau y mae’n ei weld. Nid yw'n gweld y cyfleoedd. O ran dur a’r sectorau diwydiannol eraill, nid oes unrhyw reswm o gwbl i feddwl na all ein diwydiannau fod yn fwy cystadleuol na'r rhai ar draws y sianel, yn enwedig gan fod y ffaith nad ydym yn rhan o ardal yr ewro yn rhoi arian cyfred mwy cystadleuol i ni.