Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Iawn. Diolch, Brif Weinidog, am hynna. Roeddwn i yn y ddadl fer a gawsom ni ychydig cyn y toriad pan drafodwyd hyn, ac roeddwn i’n falch o glywed bod y comisiynydd safonau yn edrych ar hyn. A allaf i gael sicrwydd gennych chi, Brif Weinidog, os bydd Gerard Elias yn penderfynu bod angen gweithredu, y byddwch chi’n cymryd y camau priodol ac na fyddwch yn rhoi’r mater o’r neilltu?