Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Mae'n bwynt teg, ac un o'r pethau yr ydym ni’n ceisio ei wneud yw ymgynghori mor eang â phosibl, ar-lein, wrth gwrs, a thrwy ymgynghoriadau papur. Yn anochel, mae angen i wybodaeth gael ei dosbarthu mewn cymunedau gan rai unigolion o fewn cymunedau, ond, yn amlwg, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod ymgynghoriadau mor eang ag y gallant fod.