Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod chi’n ymwybodol o’r lefel newydd enfawr o ansicrwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sydd wedi cael ei lwytho ar fusnesau bach gan y newidiadau cost enfawr sy'n deillio o ailbrisio ardrethi busnes. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi’n gyffredinol ei fod yn niwtral o ran cost ac y bydd enillwyr a chollwyr bob amser, ond mae busnesau yn Sir Fynwy yn wynebu cynnydd o 11 y cant i’w hardrethi a fydd, os cânt eu gweithredu, yn bygwth rhoi llawer ohonyn nhw allan o fusnes. A ydych chi’n cytuno bod angen i ni ddeall canlyniadau’r ailbrisio hwn yn llawn cyn y gweithredu, a cheisio rhoi cymorth i'r busnesau hynny yr effeithir arnynt waethaf o leiaf?