Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, mae’r diwydiant dur yn dal i fod mewn argyfwng. Nid yw wedi diflannu. Mae gennym ni lawer o broblemau a heriau yn ein hwynebu o hyd, er bod y gweithluoedd ar draws Cymru wedi dangos ymrwymiad i wella proffidioldeb. Beth mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud o ran ardrethi busnes? Roedd hon yn broblem, yn sicr, yn gynnar yn y flwyddyn ac ystyriwyd eithriadau ar gyfer offer a pheiriannau. A fyddwch chi’n edrych ar hynny eto, ac a fyddwch chi’n edrych ar ardrethi busnes ar gyfer y diwydiant dur?