Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, mae ychydig dros draean o safleoedd busnes yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac ychydig yn llai na hanner yn yr Alban, yn elwa ar hyn o bryd ar ryddhad ardrethi busnes, o’i gymharu â dros 70 y cant o fusnesau Cymru. Edrychaf ymlaen at gyhoeddiad cynllun rhyddhad ardrethi parhaol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach, ond a fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd hwn yn dal i fod y pecyn rhyddhad ardrethi mwyaf hael yn y DU?