Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Roeddwn i’n meddwl tybed a fyddai'r Prif Weinidog yn derbyn cyngor gennyf i—ewch i mewn i Outlook a phwyswch argraffu, a dyna ni. A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol o'r argraff ofnadwy—ofnadwy—y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn ei rhoi i'r cyhoedd yng Nghymru, eu bod yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw ddatgan â phwy maen nhw’n cyfarfod ac at ba ddiben? Mae'n gwbl annerbyniol bod cais rhyddid gwybodaeth wedi ei wneud ac wedi ei wrthod. A wnewch chi sicrhau bod y dyddiaduron yn cael eu cyhoeddi?