Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, a gaf i groesawu'r adolygiad? Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig eich bod chi’n edrych ar awdurdodaethau eraill, gan y dylem ni geisio dilyn yr arferion gorau. Os bydd hynny’n newid dulliau presennol, rwy’n credu bod hynny’n dangos i chi bod y Llywodraeth yn gwneud y peth iawn ac nad yw’n cydnabod bod arferion y gorffennol yn ddiffygiol mewn unrhyw ffordd. Mae safonau’n newid, mae technoleg yn newid, mae’r hyn sy’n bosibl yn newid, ac rwy'n credu ein bod ni eisiau bod ymhlith y goreuon ac nid bod ar ei hôl hi.