Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Wel, mae ynni adnewyddadwy yn rhan bwysig o'r gymysgedd ynni sydd ei hangen arnom ni i gefnogi Cymru ffyniannus a charbon isel diogel. Mae ein cefnogaeth barhaus wedi sicrhau manteision i Gymru hyd yn hyn, a bydd fy nghyd-Aelod Cabinet Lesley Griffiths yn gwneud datganiad ar ein blaenoriaethau ynni y mis nesaf.