<p>Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:06, 1 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n anffodus yr hyn a ddigwyddodd i Tidal Lagoon Power Ltd. Rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud bod yr hyn yr oedden nhw’n ei wneud yn debycach i brosiect ymchwil a datblygu yn hytrach na phrosiect busnes fel y cyfryw. Mae ganddo botensial, nid oes amheuaeth am hynny, ac rydym ni’n awyddus i sicrhau nad yw’r sgiliau hynny’n cael eu colli. Mae’n rhaid i mi ddweud y byddai'n hynod ddefnyddiol, wrth gwrs, pe byddem ni’n gweld cynnydd nawr ar forlyn llanw Bae Abertawe fel y gellid bwrw ymlaen â’r gwaith sy'n cael ei wneud yn Stinan, er enghraifft—gwelais yr hyn a oedd yn digwydd yno drosof fy hun—yn rhan o'r gyfres o sgiliau y bydd ei angen ar gyfer y morlyn llanw.