1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Tachwedd 2016.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch asesiadau effaith ieithyddol ym maes cynllunio? OAQ(5)0226(FM)[W]
Mae ffurflenni sy’n asesu’r effaith ar yr iaith yn rhan annatod o’r arfarniadau cynaliadwyedd sy’n cyd-fynd â chynlluniau datblygu lleol. Efallai y bydd eu hangen hefyd yn achos ceisiadau cynllunio ar gyfer safleoedd ar hap mewn ardaloedd sy’n arbennig o sensitif yn amgylcheddol fel y nodir yn y cynllun datblygu.
Diolch i chi am eich ateb. Rŷch chi’n berffaith iawn—maen nhw yn allweddol fel rhan o’r broses. Fy ngofid i, serch hynny, yw ansawdd rhai o’r asesiadau impact ieithyddol yma. Maen nhw’n cael eu cynhyrchu yn aml iawn heb eu plismona yn iawn. Gallaf i bwyntio at enghreifftiau lle mae yna dystiolaeth amheus dros ben yn cael ei chyflwyno fel rhan o’r asesiadau yma ac wrth gwrs mae’r rheini wedyn jest yn cael eu derbyn, yn aml iawn, gan awdurdodau cynllunio, ac mae yna benderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail beth y byddwn i’n dadlau yw tystiolaeth wallus. Felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod asesiadau’n cael eu heddlua a bod yr asesiadau hynny yn rhai o ansawdd sydd yn gosod cynsail teg ar gyfer penderfyniadau?
Yn gyntaf, wrth gwrs, os yw’r asesiadau’n rhan o’r cynllun datblygu, mae’r arolygydd yn gallu mynegi barn a sicrhau bod y cynllun yn iawn ynglŷn â’r iaith. Yn ail, wrth gwrs, os oes unrhyw broblem yn codi gydag asesiad lle bydd y cyngor yn derbyn yr asesiad er y gwallau sydd yn yr asesiad, mae yna gyfle i Weinidogion ystyried a ddylai’r cais gael ei alw i mewn i’r Llywodraeth.
Yn ei llythyr i’r ymgynghoriad i mewn i TAN 20 yn gynharach eleni, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg ei bod hi’n bwysig bod awdurdodau lleol yn derbyn canllawiau clir i sicrhau bod yna gysondeb ar draws Cymru pan ddaw i asesiadau ieithyddol ym maes cynllunio. A allwch chi, felly, gadarnhau heddiw bod eich Llywodraeth chi’n golygu sicrhau bod canllawiau clir yn mynd i gael eu cyhoeddi pan fyddwch yn gwneud penderfyniad yn y maes yma?
Mae hynny’n iawn. Mae’n hollbwysig i sicrhau bod cysondeb yn y system gynllunio. Yn y gorffennol, roedd systemau gwahanol yn cael eu defnyddio gan rai awdurdodau lleol, ac wrth ystyried TAN 20, rŷm ni’n moyn sicrhau bod y TAN mor glir ag sy’n bosib.
Diolch i’r Prif Weinidog.