Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd. Mae'r mater o gwmpas tai cyngor a thai cydweithredol yn rhywbeth y byddwn yn mynd ar ei drywydd fel rhan o'n targed o 20,000. Yn wir, does dim ond ychydig wythnosau ers i mi fod yn etholaeth Mick Antoniw yn lansio cynllun tai cydweithredol llwyddiannus iawn, lle mae'r gymuned yn croesawu'r cyfle i fod yn berchen ar eu heiddo a datblygu'r cynlluniau o gwmpas hynny. Wrth gwrs, rwy’n talu teyrnged i Abertawe a chynghorau eraill fel fy etholaeth fy hun yn Sir y Fflint, lle maent eisoes yn dechrau adeiladu tai cyngor eto. Rwyf wedi ei gwneud yn glir drwy ddweud, lle mae gennym Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o ansawdd da, y dylem barhau i fuddsoddi yn y cynlluniau hynny, ond nid wyf yn gweld ddim rheswm, pam na ddylem fod yn buddsoddi mewn cynlluniau cyngor chwaith, ac rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar y cynnig hwnnw.
Mae’r mater safle tir llwyd a gododd yr Aelod gyda mi yn un pwysig—ynglŷn â deiliadaeth gymysg ar y rhain. Wrth gwrs, rwy’n cytuno â hynny. Ond dylwn ddweud hefyd—roeddwn ar fai i beidio ag ateb cwestiwn gan gyfraniad cynharach ynghylch materion tir y sector cyhoeddus. Rydym yn cyflwyno—rwy’n gweithio gyda'r Gweinidog seilwaith ar dir sy'n eiddo i'r Llywodraeth a thir y sector cyhoeddus i weld sut y gallwn ddod ag arian at y bwrdd, a hynny heb fod yn gyfle ariannol bob amser, ond yn gyfle yn seiliedig ar y tir. Mae'n rhoi cyfle i ni i wneud yn iawn am rai o'r costau yn ogystal. Ond, fel arfer, gyda phob un o'r cynlluniau hyn, byddai'n rhaid iddynt fynd drwy'r broses gynllunio briodol, er mwyn rhoi cysur i'r Aelodau a ofynnodd gwestiynau yn gynharach.