Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Pan lansiais y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de mewn datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf, ymrwymais i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ei gynnydd. Mae'r tasglu wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf, gan gwrdd â rhanddeiliaid lleol a derbyn cyflwyniadau ar ystod o faterion. Bydd yr ail gyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn yn canolbwyntio'n benodol ar swyddi a ffyniant. Ailadroddaf heddiw yr hyn a ddywedais ym mis Gorffennaf: rwy’n benderfynol y bydd y tasglu hwn yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar fywydau pobl ac ar ein cymunedau yn y Cymoedd. Rydym yn gwybod na fydd cyflawni newid yn hawdd. Mae llawer o'r materion sy'n wynebu ein cymunedau yn y Cymoedd wedi'u gwreiddio'n ddwfn ac wedi bodoli ers amser hir. Maen nhw’n deillio o newidiadau dros y cenedlaethau a bydd yn cymryd amser i wyrdroi hyn.
Bwriadaf fanteisio ar gryfderau ein cymunedau yn y Cymoedd. Mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol nad yw'r Cymoedd yn un ardal unffurf, ond mae yma ardaloedd lle mae’r economi yn adfywio, mae’r ffigurau cyflogaeth yn galonogol ac mae gwelliannau mewn sgiliau, cyrhaeddiad addysgol, iechyd a lles. Rwy’n dymuno adeiladu ar y sylfeini hyn. Mae egni, ymrwymiad ac angerdd aelodau'r tasglu wedi cael argraff fawr arnaf i. Mae’r aelodau wedi dod ynghyd o amryw o sectorau gwahanol. Mae hyn yn helpu i ddarparu cydbwysedd barn gwirioneddol ac i gynnig her pan fo'n briodol. Mae aelodau'r tasglu hefyd yn dod â chyfoeth o brofiad mewn meysydd sy'n hanfodol i'n huchelgais. Rydym eisoes wedi dechrau manteisio ar yr arbenigedd hwnnw i roi hwb i’n ffordd ni o feddwl. Rwyf hefyd yn bwriadu parhau i gryfhau'r tasglu a bydd gennyf ddatganiad arall ar aelodaeth y tasglu pan fo hynny'n briodol.
Mae gan y tasglu gylch gwaith clir i ysgogi newid, ac mae hyn yn cynnwys herio a ffurfio darpariaeth y dyfodol. Yn benodol, mae cydnabyddiaeth gref fod ymgysylltiad gan y gymuned yn hanfodol. Os yw’r tasglu i gael effaith wirioneddol ar swyddi, gwella sgiliau, cyrhaeddiad addysgol a chanlyniadau iechyd, mae angen i’w waith a'i flaenoriaethau gael eu hysgogi a’u datblygu mewn cydweithrediad â phobl leol a chymunedau lleol.
Yn dilyn y cyfarfod cyntaf, a gynhaliwyd ym mis Medi yn Nhrehafod yn y Rhondda, nodwyd pedwar her allweddol, a fydd yn sail i'n gwaith. Yn gyntaf, cyfathrebu cadarnhaol a chyfranogiad cymunedol; yn ail, mynediad gwell at swyddi o safon a chynyddu sgiliau cyflogadwyedd; yn drydydd, integreiddio a chydlynu’n well ar draws gwasanaethau cyhoeddus; ac yn olaf, manteisio i’r eithaf ar fuddion strwythurau a sefydliadau sydd eisoes yn gweithio yn y Cymoedd gyda phobl y Cymoedd. Bydd y blaenoriaethau hyn yn llwyfan cychwynnol i ysgogi newid gwirioneddol.
Mae ymgysylltu a grymuso cymunedau i nodi blaenoriaethau lleol yn egwyddor sylfaenol sydd wrth wraidd ein dull ni o weithredu. Nid wyf yn tanbrisio maint yr her y mae hyn yn ei gynrychioli. Mae'r Cymoedd yn glytwaith cymhleth o gymunedau, a bydd gan bob cymuned ei safbwynt—weithiau safbwyntiau gwahanol—ynghyd â blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd. Ond mae hyn ond yn pwysleisio pa mor bwysig yw gwneud popeth y gallwn i roi cyfle i bobl fynegi'r safbwyntiau hynny. Dylem fod yn barod i ddefnyddio technegau arloesol a all gynnig cipolwg newydd. Rydym ni, er enghraifft, yn ymchwilio i'r posibilrwydd o weithio gydag ymchwilwyr i gasglu gwybodaeth amser real am agweddau, dyheadau a blaenoriaethau pobl. Byddwn yn ystyried ymgyrch wedi'i thargedu i godi proffil y Cymoedd.
Mae angen inni ddiogelu a chreu swyddi i ysgogi economi fwy bywiog yn y Cymoedd. Bydd cyfarfod nesaf y tasglu, ar 28 Tachwedd, yn gynhadledd swyddi, a fydd yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar gyflogaeth. Byddwn yn cynnwys cyflogwyr o’r sectorau preifat a chyhoeddus, a byddwn yn ystyried yr holl ysgogiadau polisi sydd ar gael inni fel y gallwn wneud yn siŵr eu bod wedi eu halinio i gyflawni twf economaidd. Mae swyddi yn allweddol i'n huchelgais, ond bydd angen inni sicrhau hefyd bod gan y bobl sy'n byw yng nghymunedau’r Cymoedd y sgiliau angenrheidiol i gystadlu am y swyddi hynny, ac mae angen iddynt allu cael mynediad at y swyddi hynny.
Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, dinas-ranbarthau a dinas-ranbarth Bae Abertawe yn gyfleoedd gwirioneddol i gymunedau'r Cymoedd. Bydd manteisio ar y fargen ddinesig yn cynnwys manteisio ar y posibiliadau llawn a gynigir gan fetro de Cymru. Bydd cludiant hyblyg, fforddiadwy ac integredig ym mhob cwr o’r Cymoedd yn hanfodol i’n dyfodol. Mae ein hymrwymiad i'r metro yn glir, ond ni chredaf y dylem fodloni ar gyflwyno'r metro yn unig. Bydd angen inni weithio gyda'n partneriaid lleol i nodi'r cyfleoedd buddsoddi eraill a ddaw yn sgil y metro. Mae hwn yn ddatblygiad i’r Cymoedd na fyddwn yn gweld dim byd tebyg iddo yn yr oes hon, ac mae'n rhaid inni fanteisio arno, gan sicrhau hefyd nad yw’r cymunedau hynny nas gwasanaethir yn uniongyrchol gan y metro yn cael eu gadael ar ôl.
Rwyf hefyd o’r farn na ddylem deimlo bod yn rhaid inni gyfyngu ein hymyriadau i’r mentrau hynny yr ydym wedi eu defnyddio yn y gorffennol. Mae angen inni feddwl yn arloesol, a dylem ni fod yn barod i ddefnyddio'r Cymoedd i brofi dulliau newydd. Beth am ddefnyddio’r Cymoedd i ddatblygu ffyrdd newydd o gysylltu pobl y mae angen swyddi arnyn nhw â'r cyflogwyr sy’n ceisio llenwi swyddi gwag? Rydym eisoes yn ymchwilio i unrhyw ffyrdd mwy hyblyg o ymateb i'r anghenion hynny. Mae'r tasglu yn rhoi ffordd newydd inni o edrych ar y materion hyn, ac mae'n rhoi ffyrdd newydd o ganfod y partneriaid allweddol a fydd yn ein cefnogi i’w cyflenwi.
Ceir enghreifftiau o arfer rhagorol ledled y Cymoedd y gallwn adeiladu arnyn nhw. Rydym eisoes wedi clywed am brosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau. Ond rydym hefyd wedi clywed negeseuon clir iawn bod yn rhaid i’r prosiectau hynny oresgyn rhwystrau biwrocratiaeth yn amlach na pheidio. Mae angen inni fod yn barod i herio'r rhwystrau hynny a chael gwared arnyn nhw, ond nid wyf i eisiau i'r tasglu wneud dim ond cynnig sylwadau o bell. Mae ein trafodaethau cynnar yn awgrymu bod lle i ni dreialu dulliau newydd o gyflawni prosiectau. Rwyf i eisiau i ni edrych ar sut y gallwn gyfuno rhaglenni presennol i gael mwy o effaith eto. Byddwn i’n croesawu unrhyw sylwadau gan yr Aelodau ynglŷn â hyn a materion eraill. Rwy’n bwriadu gwneud cyhoeddiad pellach ar yr agwedd hon o'n cynlluniau yn y dyfodol agos.
Ddirprwy Lywydd, rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau y bydd mentrau ehangach y Llywodraeth yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau. Mae'r datganiad diweddar ar gydnerthedd cymunedol gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, yn ffordd ddefnyddiol o atgoffa’r tasglu am bwysigrwydd cydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus ond gan gynnwys y trydydd sector hefyd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl yn ganolog i gyflenwi lleol. Mae’r bwrdd yr ydym wedi ei sefydlu ar lefel swyddogion i gefnogi gwaith y tasglu yn darparu dull o sicrhau ein bod yn nodi ac yn manteisio ar feysydd eraill o ddatblygu polisi a all ddod ar draws ein gwaith.
Byddaf yn pwysleisio unwaith eto bod fy agwedd at waith y tasglu yn ymwneud â dwyn ynghyd y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud lawn cymaint ag y mae â hyrwyddo gwaith newydd. Nid oes gennyf unrhyw awydd i ddatblygu strwythurau cyflawni cyfochrog na chystadleuol yn y Cymoedd. Rwyf eisiau inni nodi’r mentrau polisi hynny a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac yna rwyf eisiau inni ddatblygu'r strwythurau cyflawni mwyaf effeithiol i roi’r polisïau hynny ar waith. Byddaf yn parhau i weithio'n agos â phob un o fy nghydweinidogion ar y gwaith hwn, a bydd y tasglu yn parhau i ddarparu dull a fydd yn ein helpu i sicrhau bod ein hymateb mor gydlynol â phosibl.
Ddirprwy Lywydd, mae’n ddyddiau cynnar o hyd, ond rwyf yn falch o allu ailadrodd y bydd rhaglen waith y tasglu wrth symud ymlaen yn cynnwys canlyniadau a thystiolaeth i fesur newid. Bydd hyn yn cynnwys pwyslais ar les i adlewyrchu'r hyn y mae pobl a chymunedau yn ei deimlo ac yn ei ddweud wrthym. Bydd ein gwaith yn cael ei arwain a'i ddylanwadu gan yr hyn y mae’r cymunedau hynny yn ei ddweud wrthym. Byddaf yn parhau i roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau wrth i waith y tasglu ddatblygu ac esblygu yn ystod y misoedd nesaf.