Part of the debate – Senedd Cymru am 6:28 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Rwy'n siŵr bod yr Aelod wedi clywed y gwahoddiad caredig hwnnw.
A gaf i ddweud bod yr Aelod dros Gaerffili yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn, iawn am natur y Cymoedd hefyd? Un peth sy'n uno pob un ohonom o Gymoedd y de, yn ein ffyrdd gwahanol, yw bod gennym ymdeimlad clir o le, ac mae'r lle yn bwysig i ni. Caiff ein golwg o’r byd ei bennu gan y pwynt pan gawsom ein geni, ble’r ydym yn byw. Bydd fy safbwynt i, wrth edrych draw at gwm Rhymni neu rywle arall o Dredegar, yn safbwynt tra gwahanol i safbwynt y bobl yn Williamstown sy’n edrych dros y bryn yn ôl arnom ni. Ac rwy’n derbyn hynny. Rwy’n derbyn yr her y mae hynny'n ei chyflwyno i ni, ond byddwn i hefyd yn dadlau bod hynny’n rhoi cryfder gwirioneddol i ni hefyd. Un o lwyddiannau diwylliannol mawr y Cymoedd, os mynnwch chi, yw ein gallu i gydnabod pwysigrwydd lle a sut y gall lle ysgogi ansawdd bywyd a'r hyn yr ydym eisiau ei gyflawni. Felly, byddaf i yn sicr yn ymwybodol o hynny.
Ond, mae'r heriau sy'n wynebu Cymoedd gogleddol y de yn neilltuol. Wrth edrych ar y niferoedd a'r dadansoddiad ystadegol yr ydym wedi ei gael ar weithgareddau economaidd, fe welwn, yn rhannau deheuol y Cymoedd, fod rhywfaint o dwf gwirioneddol wedi digwydd, bu cynnydd mewn swyddi a bu cynnydd mewn ffyniant. Ac rydym yn cyrraedd pwynt lle daw’r cynnydd hwnnw mewn ffyniant i ben, lle mae rhai materion anodd iawn wedi’u hymwreiddio’n ddwfn. Mae’r rhain yn tueddu i fod yng ngymunedau y Cymoedd gogleddol a chredaf fod angen inni gymryd cipolwg craff iawn ar hynny. Roedd y sgwrs a gefais gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi yn gynharach heddiw yn canolbwyntio'n fawr iawn ar sut yr ydym yn aildrefnu ein blaenoriaethau economaidd i sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl sbardunau polisi gwahanol sydd ar gael i ni fel Llywodraeth i wneud yn siwr ein bod yn blaenoriaethu datblygiad economaidd yn yr ardaloedd sydd ei angen fwyaf. Ac mae angen canolbwyntio ar gymunedau y Cymoedd gogleddol yn sicr.
O ran y materion ehangach ar y fargen ddinesig, credaf ei bod yn bwysig bod y sgwrs a gefais gyda’r Ysgrifennydd Cabinet cyfrifol yn rhoi pwys mawr iawn ar bwysigrwydd y fargen ddinesig, o ran yr hyn y gall Caerdydd ei wneud i gefnogi’r Cymoedd a sut y gallwn ni bontio'r bwlch rhwng Caerdydd a'r Cymoedd. Mae angen sicrhau ein bod yn creu rhanbarth economaidd mwy cydlynol ac ar yr un pryd yn cydnabod y gall prifysgolion ac y dylai prifysgolion fod yn rhan allweddol o bolisi diwydiannol sy'n helpu i gynnal a buddsoddi mewn twf cynaliadwy. Gobeithio y bydd yr holl sefydliadau addysg bellach ac uwch yn canolbwyntio ar hynny, a swyddogaeth y Llywodraeth yw cynnal hynny, dwyn hynny ynghyd i’n galluogi ni i gael y math o effaith economaidd y dymunwn ei gweld.