13. 10. Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-2016

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 6:31, 1 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2015-16, a elwir 'Tuag at Gymru Decach’.

Mae'r adolygiad yn rhoi sylw i’r amrywiaeth eang o waith y mae’r comisiwn wedi ymgymryd ag ef yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru, ac yn cyflwyno rhagolwg o'i flaenoriaethau. Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) swyddogaeth unigryw fel rheolydd dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a'r dyletswyddau penodol i Gymru. Mae'r adolygiad blynyddol yn rhoi llawer o enghreifftiau o arfer da sydd wedi deillio o’r dyletswyddau hynny ac yn dangos yr effaith gadarnhaol y maen nhw’n eu cael yng Nghymru.

Mae wedi bod yn flwyddyn bwysig arall i’r comisiwn. Mae cyhoeddi 'A yw Cymru’n Decach?' yn arbennig wedi cael effaith bwysig ar y ffordd yr eir i’r afael ag anghydraddoldeb yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yng Nghymru i hyrwyddo cydraddoldeb ers i'r comisiwn gyhoeddi ei adolygiad 'Pa mor deg yw Cymru?' bum mlynedd yn ôl. Mae'n amlinellu lle y mae angen gwelliannau ac yn nodi saith her allweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol y mae angen mynd i'r afael â nhw yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae'r comisiwn hefyd wedi cyhoeddi’r heriau hyn i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru ac mae gennym ni oll swyddogaeth wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, a dylem ni barhau i weithio gyda'n gilydd er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.

Roedd y comisiwn yn dymuno i’r adroddiad 'A yw Cymru’n Decach?' sbarduno newid, ac mae gennym ni’r un dyhead ar gyfer ein hamcanion cydraddoldeb newydd, a gyhoeddwyd gennym ym mis Mawrth 2016. Datblygwyd ein hamcanion ar ôl ymgysylltu helaeth â phobl ledled Cymru, ac maen nhw wedi’u cysylltu'n gryf â'r heriau a nodwyd yn adroddiad 'A yw Cymru’n Decach?'. Mae awdurdodau cyhoeddus yn pennu amcanion cydraddoldeb yn seiliedig ar yr heriau allweddol hyn, ac mae'r adroddiad felly yn ysbrydoli ymagwedd ar y cyd o fynd i'r afael â'r prif faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb sy'n effeithio ar fywydau llawer o bobl yma yng Nghymru.

Gwn fod yr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol neu’r EHRC yn gryf o blaid cydweithio, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn eu hawydd i weithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru i lunio'r agenda cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r EHRC wedi croesawu penodiad y comisiynydd ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio er mwyn helpu i wneud Cymru'n genedl fwy cyfartal a chydlynol.

Rydym ni’n cydnabod ymrwymiad y comisiwn i annog, hysbysu a monitro'r sector cyhoeddus, y ceir enghreifftiau o hynny yn eu hadolygiad blynyddol, ac mae’r comisiwn wedi cynhyrchu adroddiad yn ddiweddar sy'n annog cyflogwyr yng Nghymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i Fwslimiaid a phobl o bob crefydd, drwy ddatblygu mannau yn y gwaith sy’n croesawu pob ffydd. Mae'n bwysig ein bod ni yng Nghymru ar flaen y gad er mwyn gweithredu mesurau ymarferol yn y gweithle i ddenu, cefnogi a chadw pobl dalentog o bob ffydd.

Ym mis Medi, roeddwn i’n bresennol yn nigwyddiad lansio y cyhoeddiad ‘Creating a faith-friendly workplace for Muslims’ a'r ffilm fer i gyd-fynd â hynny, sef ‘Fairness Not Favours’. Roedd hon yn enghraifft wych o'r wybodaeth a’r digwyddiadau poblogaidd a drefnwyd gan y comisiwn yn ystod y flwyddyn 2015-16.

Mae cyfnewidfa cydraddoldeb a hawliau dynol y comisiwn wedi parhau i fynd o nerth i nerth. Mae'r gyfnewidfa yn dod â chyflogwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd i rannu gwybodaeth, arferion da a syniadau newydd. Mae'r digwyddiadau rhanbarthol wedi darparu fforwm gwerthfawr i aelodau drafod amrywiaeth o bynciau.

Mae darlith flynyddol uchel ei pharch yr EHRC ar hawliau dynol yn ddigwyddiad pwysig arall yn y calendr ar gyfer ymarferwyr cydraddoldeb a hawliau dynol yma yng Nghymru, ac fe gyflwynodd y Parchedig Aled Edwards y ddarlith eleni, gan ganolbwyntio ar brofiadau ceiswyr lloches, mewnfudwyr a ffoaduriaid yng Nghymru. Mae hyn, wrth gwrs, yn parhau i fod yn bwnc amserol a heriol, ac rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma yng Nghymru.

Byddwn ni’n gweithio'n agos â'r EHRC ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar am y cyngor a'r dystiolaeth y mae'n ei ddarparu i Lywodraeth Cymru. Mae'r berthynas hon yn ein cynorthwyo i ddatblygu polisi, ac, fel yr ydym wedi gweld yn glir iawn yn ein hamcanion cydraddoldeb newydd, gwnaeth y concordat rhwng yr EHRC a Llywodraeth Cymru yn 2014 ddarparu sail ar gyfer y berthynas, ac rydym wedi parhau i adeiladu ar hyn. Mae'n bwysig bod EHRC yn parhau i fod yn bresenoldeb cryf a phendant yma yng Nghymru, yn enwedig gan fod cyfnod ansicr ar droed o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yma yn y DU. Rydym yn cadw llygad barcud ar gynlluniau Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 â Bil o hawliau, ac mae’r Ddeddf hawliau dynol yn ein hamddiffyn ni i gyd, ni waeth beth yw ein cefndir economaidd, cymdeithasol neu ddiwylliannol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’n fawr ddarn cynhwysol o ddeddfwriaeth, un sy'n caniatáu i bobl Cymru i herio anghydraddoldeb ac anghyfiawnder.

Rydym yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gyfyngu posibl ar ein hawliau dynol, a byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn i sicrhau na chaiff yr hawliau a fwynheir ar hyn o bryd gan yr holl bobl sy'n byw yng Nghymru eu gwanhau gan gynigion Llywodraeth y DU. Rydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU gyflawni ei hymrwymiad ac ymgynghori'n llawn ar unrhyw gynigion sy'n effeithio ar unrhyw hawliau dynol.

I grynhoi, mae adolygiad blynyddol yr EHRC yn rhoi trosolwg gwerthfawr o waith eang ac amrywiol y comisiwn dros y flwyddyn ddiwethaf, yr wyf i'n ddiolchgar iawn amdano. Rwy’n sicr y caiff hyn ei adlewyrchu yn yr amrywiaeth eang o bynciau a drafodir yn ystod y ddadl hon, ac mae hyn yn dangos bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn berthnasol i bob agwedd ar ein bywydau bob dydd, ac, o ganlyniad, yn elfen hanfodol wrth ddatblygu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.