Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch, ac rwy’n ymddiheuro mai fi sydd yn codi bob tro ar gyfer Plaid Cymru heddiw; rwy’n siŵr bod pobl wedi cael digon o glywed fy llais i. Ond rwyf yn hapus i groesawu cyfraniad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma yng Nghymru drwy dynnu sylw at y gwaith y maent wedi ei wneud i gynnal y momentwm tuag at Gymru decach a fwy cynhwysol, a hefyd drwy dynnu sylw, wrth gwrs, at beth sydd yn dal angen ei wneud er mwyn sicrhau hawliau holl ddinasyddion Cymru.
Mae Plaid Cymru wedi cynnig dau welliant i’r ddadl heddiw, un sydd yn nodi y bydd clinig hunaniaeth rhywedd i Gymru yn cael ei sefydlu yn sgil trafodaethau rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth ar gyfer y gyllideb bresennol—y clinig cyntaf o’i fath yma yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y gall pawb yn y Cynulliad yma werthfawrogi arwyddocâd ac effaith bositif y gall hynny ei gael ar y gymuned drawsrywiol yma yng Nghymru. Rydw i wedi cwrdd â nifer o bobl yn y gymuned honno sydd wedi gorfod trafaelio i Loegr am driniaeth hyd yn hyn, ac maen nhw yn gweld gwerth yr hyn sydd yn cael ei wneud yn sgil y datganiad yma.
Mae ein hail welliant yn gofyn am sicrwydd gan y Llywodraeth i weithredu ar un mater yn benodol a godwyd yn yr adroddiad, sef i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd, er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u hawliau yn y gwaith ac i fod yn hyderus i sefyll drostynt. Mae’n warthus bod mwy na thri chwarter o fenywod beichiog a mamau newydd yng Nghymru yn profi triniaeth negyddol, ac, o bosibl, gwahaniaethol yn y gwaith. Mae gofyn felly i’r Llywodraeth gydweithredu gydag undebau llafur a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hyrwyddo hawliau mamau ifanc beichiog a mamau newydd yn y gwaith yn well, a chymryd camau pendant i sicrhau bod yr hawliau yma yn cael eu hamlygu, nid yn unig i’r mamau eu hunain ond i’r cyflogwyr hefyd, sydd efallai yn diystyru eu barn heb yn wybod iddyn nhw ar nifer o adegau.
Mi fyddwn ni’n cefnogi y gwelliannau yn enw Paul Davies, yn unol â’r gwelliant penodol ynglŷn â chydweithredu ar draws sectorau a sefydliadau cyhoeddus a phreifat, gan fod hyn yn rhywbeth pwysig i ni hefyd. Ond fel pob adroddiad blynyddol gan y comisiwn, mae rhai o’r ffigurau yn yr adroddiad hwn yn frawychus. Mae 23 y cant o bobl yng Nghymru yn dal i fyw mewn tlodi, ac mae hyn yn codi i 42 y cant o holl blant rhwng 0 a 4 oed, ac mae 27 y cant o bobl anabl a 38 y cant o bobl o leiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi o hyd.
Mae’n peri gofid i fi bod hyn yn digwydd blwyddyn ar ôl blwyddyn a phrin bod y ffigurau’n newid. Ac felly mae e’n llai o gwestiwn i’r Gweinidog ond cwestiwn i’r comisiwn ei hun—roeddwn yn edrych ar y wefan yn gynharach ac mae gan y comisiwn bwerau gorfodaeth. Maen nhw’n gallu bod yn sialens i nifer o bolisïau sydd yn dod allan o Lywodraethau gwahanol, ac felly byddwn i eisiau gweld, er enghraifft, fel mae’r comisiynydd pobl hŷn wedi gwneud, defnyddio’r pwerau hynny yn fwy amlwg i weithredu dros yr hyn sydd yn digwydd, oherwydd nid wyf yn hapus i fod yma blwyddyn ar ôl blwyddyn i drafod y ffaith bod pobl yn parhau i fod mewn tlodi. Beth mae’r comisiwn yn defnyddio o ran ei sgiliau o ran y pwerau i allu newid hyn?
Rwy’n credu ei bod yn bwysig hefyd inni edrych ar yr economi, oherwydd, wrth gwrs, dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru, ond mae angen inni gael pwerau economaidd ystyrlon wedi’u trosglwyddo o San Steffan i Gymru er mwyn inni allu gweddnewid yr hyn sydd yn digwydd o fewn ein heconomi, yn enwedig yn sgil y ffaith bod pobl wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Os nad nawr yw’r amser i gael mwy o bwerau dros ein heconomi ein hunain, yna pryd?
Byddwn i’n hoffi clywed mwy gan y Gweinidog yn hynny o beth, yn enwedig o ran y Ddeddf hawliau dynol a’r bwriad gan y Llywodraeth yn San Steffan i danseilio hynny gan gael gwared ar hynny. Mae hi wedi’i gwreiddio mewn nifer fawr o ddeddfwriaeth ryngwladol. Sut, felly, mae’r Gweinidog yn bwriadu herio Llywodraeth Prydain i ddweud nad yw Cymru’n hapus i hynny ddigwydd a sut y bydd e’n cyfathrebu hynny’n glir iddyn nhw? Diolch yn fawr.