Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ac, yn benodol, am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud â'i phwyllgorau amrywiol ac is-bwyllgor y Cabinet sy'n cynghori'r Cabinet. Mae rhywfaint o siom i mi, er hyn, ym mheth o'r iaith yn y datganiad hwn heddiw, yn enwedig y dôn ddigalon. Roedd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon hefyd yn yr union gyfarfod hwnnw yr oedd Prif Weinidog Cymru ynddo ddydd Llun diwethaf a dyma oedd ei geiriau hi:
Cyfle economaidd mwyaf y DU ers degawdau.
Dyna yr oedd hi’n cyfeirio ato wrth drafod Brexit. Dyna'r hyn y mae’n rhaid i ni ei wynebu. Mae'n gyfle. Mae pobl wedi mynegi eu barn ar 23 Mehefin a dyletswydd gwleidyddion o ba bynnag liw yn awr yw gwireddu dymuniadau pobl Prydain mewn gwirionedd. Mae'n bwysig bod safbwyntiau y 48 y cant o bobl a bleidleisiodd i aros hefyd yn cael eu hystyried, gan fod hynny'n nifer sylweddol o unigolion a fynegodd farn i gadw ein perthynas ag Ewrop hefyd. Rwyf wedi bod yn glir iawn mewn unrhyw sylw yr wyf wedi'i wneud nad oes un ateb sy’n addas i bawb yn hyn o beth, ond mae angen i safbwyntiau’r ddwy ochr gael eu datblygu trwy gydweithrediad rhwng y ddwy ochr, yn hytrach na dim ond chwarae’r gemau gwleidyddiaeth dibwys y mae peth o'r iaith yn y datganiad hwn yn cyfeirio ato, fel— [Torri ar draws.] Wel, rwy’n gwerthfawrogi y byddwn ni yn y Siambr hon yn parhau gyda'r cellwair fel hyn—ond iaith negeseuon dryslyd a chymysg. Y Prif Weinidog ei hun a gyflwynodd ei gynllun chwe phwynt i nodi safbwynt Llywodraeth Cymru, a chyn i ni wybod, cafodd symudiad rhydd pobl ei ollwng o'r cynllun chwe phwynt hwnnw. Y Prif Weinidog ei hun a ddywedodd, ddechrau mis Gorffennaf, mai gorau po gyntaf y byddai galw erthygl 50 i rym, ac yna newidiwyd hynny erbyn mis Awst i ddweud bod dull y Prif Weinidog yn ddull synhwyrol iawn. Byddwn yn awgrymu mai’r unig ddryswch, a'r unig negeseuon cymysg, yw’r rhai a geir gan y Prif Weinidog ei hun ac, yn wir, Llywodraeth Cymru. Ac mae hynny i'w ddifaru—nad yw'n ymgysylltu’n fwy cadarnhaol pan fyddwch yn edrych ar y ffordd y mae Prif Weinidog y DU wedi estyn llaw at y gweinyddiaethau datganoledig, yn arbennig, wrth ailddyfeisio ac ail-sefydlu Cydbwyllgor y Gweinidogion, i wneud yn siŵr bod y llais datganoledig yn cael ei glywed yn glir o amgylch y bwrdd hwnnw ac, yn anad dim, gwneud yn siŵr bod y Cydbwyllgor Gweinidogion yn cyfarfod o amgylch y Deyrnas Unedig gyfan, nid dim ond yn Llundain.
Byddwn yn croesawu barn y Prif Weinidog ynglŷn â sut y bydd Cydbwyllgor y Gweinidogion yn symud ymlaen yn ystod y 12 mis, 18 mis neu ddwy flynedd nesaf, oherwydd y mae’n hollol iawn i nodi y bydd hwn yn llwyfan allweddol ar gyfer datblygu barn y Llywodraethau datganoledig yn y trafodaethau, oherwydd Llywodraeth y DU yw'r Llywodraeth berthnasol a Llywodraeth y trafodaethau. Gwnaeth ef, fel fi, gyfarfod â David Davis bythefnos yn ôl i heddiw. Roeddwn i yn ei ystyried yn Ysgrifennydd Gwladol a oedd yn cymryd rhan lawn, a oedd â strategaeth gydlynol ar gyfer y ffordd ymlaen ac, yn anad dim, mae'r cyhoeddiadau—[Torri ar draws.] Wel, unwaith eto, wyddoch chi, mae’n ymddangos bod y Prif Weinidog a'r Blaid Lafur yn benodol eisiau cymryd safbwynt gwahanol ar bob sefyllfa dim ond oherwydd bod gwleidyddiaeth y sefyllfa’n dda ar eu cyfer. Mae'n rhaid i ni ddeddfu dymuniadau pobl Cymru ar 23 Mehefin, a chafodd y rheini eu bwrw’n glir iawn: bod pobl Cymru yn awyddus i ail-lunio eu perthynas ag Ewrop.
Yr wythnos diwethaf, cawsom y cyhoeddiad am y ffatri injan Nissan yn Sunderland; cawsom y ffigurau twf economaidd. Y cyfan yn newyddion cadarnhaol ac eto yn dal i geisio taflu dŵr oer ar ganlyniad y refferendwm.
Hoffwn i hefyd ofyn i'r Prif Weinidog, yn arbennig, am y paragraff lle y mae'n sôn am bolisïau a rheoli meysydd datganoledig. Rwyf hefyd yn ei gefnogi yn ei sylwadau. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn y sefydliad hwn yn ei gefnogi. Ond mae cyfle—fel, i fod yn deg, y mae eich datganiad yn ei nodi—lle mae'n dweud,
‘Rydym yn derbyn mai’r peth gorau fydd ymdrin â rhai materion ar sail y DU gyfan, ond dim ond trwy gytundeb rhyng-lywodraethol y gellid gwneud hyn, drwy gyfuno peth sofraniaeth, nid gorfodi.'
Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai ymhelaethu ar y cyfeiriad penodol hwnnw—sut y mae'n gweld y math hwnnw o berthynas, y math hwnnw o gyfuno sofraniaeth. Yn bwysig, mae'n cyfeirio at y meysydd polisi, ac nid o reidrwydd y meysydd ariannol, oherwydd nid yw'n gwneud cyfeiriad yn y paragraff penodol hwnnw neu unrhyw le yn y datganiad—. Darllenais hwnnw’n ofalus iawn oherwydd, yn amlwg, mae ochr ariannol yr hafaliad yn draddodiadol wedi bod yn ystyriaeth bwysig yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru, megis cyllid strwythurol, addysg uwch, amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Rwy’n sylwi eich bod wedi cyfeirio'n benodol at feysydd polisi, nid meysydd ariannol. Felly, a yw'n wir bod y Prif Weinidog yn fwy parod i dderbyn mwy o rannu sofraniaeth yn y meysydd penodol hynny fel y gall yr arian gael ei asio yn y modd gorau â chynlluniau Llywodraeth y DU a’i ymestyn ymhellach? Edrychaf ymlaen at glywed beth yw'r ateb sy’n dod gan y Prif Weinidog.
Mae hefyd yn defnyddio'r gair ‘cydgynllwynio’, a chredaf fod hynny’n ymadrodd anffodus iawn wrth sôn am ddatblygu rhyngwladol. Cyflawnwyd naw deg o'r 97 o gytundebau mewnfuddsoddi o Fasnach a Buddsoddi’r DU y llynedd. Mae'n bwysig bod perthynas gref— [Torri ar draws.] Ffigyrau Masnach a Buddsoddi’r DU ei hun oedd y rhai hynny, Brif Weinidog. Fel y gwelsom yn y cwestiynau cynnar yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, nid oeddech yn arbennig o dda am nodi Mecsico wrth ystyried masnach rydd, ond rwy'n siŵr bod ffigurau Masnach a Buddsoddi’r DU yn gywir. Felly, byddwn yn ddiolchgar unwaith eto—i wybod sut y bydd y Prif Weinidog yn bwrw ymlaen â safbwynt y Llywodraeth wrth hyrwyddo Cymru ar lwyfan y DU wrth hybu Cymru fel man da, cadarn ar gyfer buddsoddi. Unwaith eto, pwynt arall a wnaeth Arlene Foster dros y penwythnos oedd sut y mae hi'n ystyried bod hwn yn gyfle unigryw i ddatblygu y cynnig—yn ei hachos hi, yr hyn sydd gan Ogledd Iwerddon i'w gynnig ar ôl Brexit—a byddai'n dda clywed sut y bydd y Prif Weinidog yn bwrw ymlaen â’r materion hyn.
Rwyf fi, hefyd, yn ymuno ag ef yn y pwyntiau y mae'n eu gwneud am hiliaeth a sylwadau sydd wedi eu gwneud yng Nghymru ac, yn wir, o amgylch y Deyrnas Unedig. Nid oes lle o gwbl mewn unrhyw gymdeithas wâr neu ddatblygedig ar gyfer rhethreg o'r fath, a dylem fod yn gweithio ar draws y pleidiau i sicrhau bod hynny yn cael ei ddiddymu mewn cymunedau o bob cefndir. Ond mae'n ffaith bod y Prif Weinidog wedi mynd yn ôl ar yr egwyddor o symudiad rhydd o bobl, oni bai ei fod am fy ngwrth-ddweud i ar hynny pan fydd yn ymateb i mi. Felly, pan mae’n sôn am bwysigrwydd symudiad rhydd o nwyddau a gwasanaethau, yn seiliedig ar yr egwyddor ei bod yn ofynnol i hynny, dan ddeddfwriaeth yr UE, a dealltwriaeth yr UE o’r farchnad sengl, fod yn berthnasol i bobl hefyd, sut y mae'n gweld sefyllfa drafod Llywodraeth Cymru yn helpu i wneud yn siŵr bod mynediad at y farchnad sengl, o ystyried eich bod wedi rhoi’r gorau i’r egwyddor honno, yr egwyddor sylfaenol honno, o symudiad rhydd o bobl, sy'n ymddangos yn faen tramgwydd mor allweddol? Nid wyf wedi clywed hyd yma ddadl gynhwysfawr gan y Prif Weinidog ynglŷn â pham, o’i safbwynt gwreiddiol, y mae bellach wedi symud i ollwng y cafeat allweddol hwnnw o safbwynt Llywodraeth Cymru.
Rwyf yn dymuno’n dda i’r Prif Weinidog. Rwy’n dymuno’n dda i Lywodraeth Cymru yn ei thrafodaethau, ac yn arbennig yn ei chyfarfodydd â gweinyddiaethau datganoledig eraill a Llywodraeth y DU. Ond mae’n gwbl angenrheidiol ein bod ni’n deall ein gilydd ar hyn. Mae’r ddwy flynedd nesaf yn mynd i fod yn hanfodol bwysig i lawer o fusnesau, llawer o gymunedau a llawer o unigolion ar hyd a lled Cymru. Pleidleisiodd Cymru i aildrefnu ein perthynas ag Ewrop. Ni allwch wadu hynny. Mae'n ddyletswydd ar wleidyddion o bob plaid i weithio gyda'i gilydd, ac rwy’n gresynu bod y Prif Weinidog wedi dewis peidio â derbyn fy nghynnig ar y pedwerydd ar hugain i weithio gydag ef ar hyn. Rwyf yn derbyn ei safbwynt——nid yw am dderbyn y cynnig hwnnw—ond rwy'n credu bod hynny'n destun gofid dwfn, oherwydd, gyda'i gilydd, gallai gwleidyddion yn y sefydliad hwn gyflawni cymaint mwy o ran gwella sefyllfa Cymru o gwmpas y byrddau sy’n trafod Brexit.