Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Mae'n bwynt cryf i’w wneud, ac nid yw'n wir y bydd yn hawdd cael 30 o gyrff gwahanol i gytuno i fargen. Yn syml, nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Mae’r DU ar drugaredd Sbaen o ran Gibraltar; mae wedi gweld ei chyfle a bydd yn dadlau dros gyd-sofraniaeth. Dyna un wlad y mae'n rhaid dwyn perswâd arni ymysg, wel, 27 o wahanol wledydd, dwy Senedd ranbarthol a dau sefydliad. Rydym yn gwybod bod yna wledydd eraill nad ydyn nhw’n ystyried bod y DU yn bwysig o ran eu masnach. Bydd rhai gwledydd yn—bydd yr Almaen yn, mae’n siŵr bod hynny’n deg i’w ddweud. Ni fydd gwledydd eraill yn ystyried bod y DU yn bwysig o gwbl, a bydd eu perswadio y dylen nhw, rywsut, ymrwymo i fargen a fydd, yn eu tyb nhw, yn ffafrio’r DU yn afresymol yn her fawr. Fel y dywedais, rwy’n credu na ddylem ni dwyllo ein hunain bod pobl o’r farn bod ar wledydd eraill fywoliaeth i’r DU. Nid dyna sut y maen nhw’n gweld y mater—nid dyna sut y maen nhw’n gweld y mater. Nid y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw hi. Mae'n rhaid i ni fod yn realistig a chael y fargen orau y gallwn ar gyfer y DU, o ystyried y ffaith bod yr UE wyth gwaith yn fwy na ni o ran ei maint, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael y fargen orau wrth ymdrin â sefydliad llawer mwy.
Pwynt arall y credaf ei fod gwerth ei wneud: o ran cymhlethdod hyn i gyd, os ydych yn ystyried y sefyllfa, mewn gwirionedd, mewn rhai ffyrdd, mae’n fwy cymhleth i weld y DU yn gadael yr UE nag y byddai i'r Alban fod yn annibynnol, oherwydd, o leiaf yn yr amgylchiadau hynny, byddai’r Alban a gweddill y DU yn dal yn parhau’n rhan o'r UE. A dweud y gwir, ni fyddai unrhyw drafodaethau masnach yn rhan o'r broses honno, ond bydd trafodaethau masnach yn rhan o'r broses hon. Felly, dyma ba mor gymhleth yw hyn—mewn rhai ffyrdd, mae'n fwy cymhleth nag annibyniaeth i'r Alban, ac mae'n bwynt y mae’n rhaid i mi ei wneud i'r Aelodau. Mae’n rhaid i ni beidio â meddwl bod hyn yn hawdd, mae’n rhaid i ni beidio â meddwl bod ar y byd fywoliaeth i ni. Ni allwn ymddangos yn drahaus ynglŷn â hyn, yn anad dim, ond mae'n rhaid i ni wneud iddo weithio. Mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn gweithio, ac rwy’n credu bod yr holl Aelodau yn y Siambr hon yn deall hynny.
Os ydym yn edrych arno yn synhwyrol, mae angen i ni gael syniad nawr o'r egwyddorion cyffredinol y bydd ar Lywodraeth y DU eisiau eu dilyn. Ni fydd yn ddigon da i Lywodraeth y DU droi i fyny a dweud, ‘Dyma beth rydym yn mynd i'w wneud, pa un a ydych yn ei hoffi ai peidio.’ Ni fyddaf yn brathu fy nhafod yn gyhoeddus os bydd hynny’n digwydd, ond nid wyf i eisiau dechrau o safbwynt sy’n tanseilio safbwynt Llywodraeth y DU. Ond ni all Llywodraeth y DU ddisgwyl mynnu cefnogaeth y gweinyddiaethau datganoledig heb ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig mewn ffordd briodol. Y sefyllfa orau fyddai, ym mis Mawrth, i bob un o Lywodraethau y DU gyrraedd safbwynt trafod cyffredin, i ddangos yr undod hwnnw ac i ddangos y nerth hwnnw. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth y DU eisiau dechrau cyd-drafod â gweddill yr UE gyda Chymru a’r Alban a Gogledd Iwerddon yn beirniadu’r DU yn gyhoeddus. Nid dyna fy man cychwyn i; nid wyf i eisiau bod yn y sefyllfa honno. Mae'n hynod bwysig, felly, ein bod yn cyrraedd pwynt lle mae Llywodraeth y DU yn estyn ei llaw, fel yr ydym ni wedi ei wneud, ac fel y mae’r Alban wedi ei wneud ac fel y mae Gogledd Iwerddon wedi ei wneud, i allu sicrhau llwyddiant y ddwy flynedd nesaf.