Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch. Mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i gynnal yr uned triniaethau dydd pediatrig yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae gwasanaethau ar gael o 10 a.m. i 10 p.m., saith diwrnod yr wythnos, ac mae teuluoedd lleol yn cael eu sicrhau y gallant barhau i gael gafael ar wasanaethau fel y maent yn ei wneud yn awr ac nad oes angen iddynt wneud newidiadau i’r modd y maent yn cael gafael ar ofal.