Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch am y pwyntiau dilynol. Nid wyf yn dymuno parhau i gael ffrae a chroesi cleddyfau’n ddig am ddyfodol gwasanaethau pediatrig yn y gorllewin, ond mae'n anodd peidio â gwneud hynny os yw’r Aelod yn gwrthod cydnabod y dystiolaeth ffeithiol sydd ar gael a'r cyngor clinigol gorau un am y model gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu. Rydym wedi ailadrodd dro ar ôl tro yr adolygiad gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, sy'n cadarnhau bod y model gwasanaeth newydd wedi gwella canlyniadau i fenywod a'u babanod, ac mae gwadu’n blaen bod hynny'n wir yn creu hinsawdd o ofn ac ansicrwydd, yn gwbl ddiangen ac yn achosi anfri gwirioneddol i’r bobl sy'n darparu’r gwasanaeth hwnnw ac i’r teuluoedd sydd ag angen y gwasanaeth hwnnw.
Mae problem o ran recriwtio ymgynghorwyr pediatrig ledled y DU, ac nid yw'n syndod ein bod yn gweld hynny yma yng Nghymru hefyd. Rwy'n falch y bu rhywfaint o gydnabyddiaeth am y datganiad i'r wasg y mae’r bwrdd iechyd wedi’i gyhoeddi, sy'n cadarnhau eu bod wedi ymrwymo i recriwtio'n unol â’r model sydd ganddynt. Gallaf gadarnhau fy mod yn disgwyl y caiff cyfweliadau eu cynnal ym mis Rhagfyr a mis Ionawr ar gyfer swyddi ymgynghorol newydd, a'r her yma yw sut yr ydych yn adeiladu ar fodel gwasanaeth sy'n gwneud synnwyr yn rhan o gyfanwaith ehangach. A dyna beth yr ydym wedi ymrwymo i’w wneud. Byddwn yn cefnogi'r bwrdd iechyd i wneud yr hyn y mae angen iddo ei wneud, i geisio recriwtio nid yn unig ymgynghorwyr, ond staff ar raddau eraill yno hefyd, i wneud yn siŵr bod y model gwasanaeth cyfan mewn gwirionedd yn darparu’r hyn y mae ei angen ar bobl. Dyna pam yr wyf wrth fy modd o weld, er enghraifft, bod mwy o nyrsys o fewn y gwasanaeth nawr na chyn i’r newidiadau gael eu gwneud hefyd. Yn wir, ymhell o ddweud bod y newidiadau gwasanaeth wedi gwneud pethau'n anoddach, rwy’n meddwl bod y mater penodol hwn yn atgyfnerthu'r angen i newid gwasanaethau mewn modd sydd wedi'i gynllunio i ddarparu gwell gwasanaeth—y dystiolaeth orau, y cyngor clinigol gorau sydd ar gael a'r canlyniadau gorau a’r gwasanaeth gorau i bobl y dylem fod mewn busnes i’w gwasanaethu a’u cynrychioli’n onest.