Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Nodaf fod Llafur yn dal i rygnu ymlaen â’r pwnc hwn, ac mae Plaid Cymru bellach yn eu cynorthwyo. Roedd cost ymchwiliad Sul y Gwaed bron i £200 miliwn o arian cyhoeddus—cafodd y rhan fwyaf ohono ei roi i gyfreithwyr. Roedd Orgreave 32 mlynedd yn ôl; ni fu neb farw. Pam mae Llafur a Phlaid Cymru mor benderfynol o roi mwy o arian trethdalwyr i gyfreithwyr?