Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am dri datganiad, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw: roeddech chi a minnau ar Stryd Fawr y Bont-faen ddydd Sadwrn, pryd y tynnodd llawer o fusnesau sylw at yr ymarfer ailbrisio a gynhaliwyd a'r cynnydd enfawr y bydd llawer o'r busnesau hynny yn ei wynebu yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod a fydd, yn y bôn, yn creu amheuaeth wirioneddol ynghylch eu hyfywedd. Clywais y sylwadau gan y Prif Weinidog yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw, pryd y cyfeiriodd at y gronfa bontio gwerth £10 miliwn sydd wedi ei sefydlu. Fy nealltwriaeth i oedd bod yr arian pontio hwn eisoes ar gael ac na fydd yn cynnig fawr ddim iawndal ar gyfer y cynnydd anferth y bydd llawer o'r busnesau yn ei wynebu yn y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, byddwn yn ddiolchgar am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i nodi pa gymorth sydd ar gael, ond, yn ail, pa fesurau eraill allai ddod oddi wrth Lywodraeth Cymru yng ngoleuni'r dystiolaeth gynyddol a gyflwynir gan fusnesau, nid yn unig ym Mro Morgannwg, ond ar hyd a lled Cymru, sy’n creu amheuaeth enfawr, enfawr ynghylch dyfodol llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint ar y stryd fawr ac mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, yw datganiad gan y Gweinidog dros drafnidiaeth ynglŷn â threfniadau trafnidiaeth ar y penwythnos rhyngwladol sydd ar ddod yng Nghaerdydd, pan fydd pêl-droed a rygbi yn cael eu chwarae ar yr un penwythnos, gyda'r potensial y bydd 100,000 o gefnogwyr o ryw fath neu’i gilydd yn dod i'n prifddinas wych. Mae hynny i’w ddathlu mewn un ffordd. Mae'n gyfle masnachol enfawr ac, yn wir, mae'n ddigwyddiad diwylliannol mawr i ddathlu’r ffaith bod y timau rygbi a phêl-droed yn chwarae yn yr un ddinas. Yn anffodus, mae profiadau’r gorffennol wedi dangos bod y cyfleoedd trafnidiaeth, yn enwedig pan fo’r chwiban olaf wedi’i chwythu mewn digwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, wedi bod yn broblemus—gawn ni ddweud—ar rai achlysuron. Byddai'n dda clywed gan y Gweinidog pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd gyda'r gwahanol awdurdodau i sicrhau bod unrhyw broblemau posibl ac ymarferion gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau blaenorol a gynhaliwyd yn y brifddinas wedi eu rhoi ar waith, fel na fyddwn yma ar y dydd Mawrth ar ôl y penwythnos yn myfyrio ynghylch anhrefn traffig, ac y byddwn gobeithio yn dathlu dwy fuddugoliaeth gref iawn gan Gymru yn hytrach, gyda sylwadau canmoliaethus yn dod gan y cefnogwyr niferus sydd wedi dod i’n prifddinas.
Y datganiad terfynol, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, yw datganiad gan Weinidog yr economi ynghylch ehangu Maes Awyr Caerdydd. Byddwn yn falch iawn o gael gwybod pa gynlluniau a pha arian yn union sydd wedi ei neilltuo i Faes Awyr Caerdydd ar gyfer cynlluniau ehangu. Fy nealltwriaeth i yw, yn rhan o rodd y maes awyr, fod rhyw 400 erw o dir sydd eisoes yn ei berchnogaeth, a byddai rhywun yn tybio y byddai hynny'n ddarn sylweddol o dir datblygu sydd ar gael iddo. Mae etholwyr yn yr ardal wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod asiantau sy'n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau ynghylch caffael tir ychwanegol gan bobl sy'n berchen ar dir yn yr ardal o amgylch y maes awyr, a byddwn yn falch o gael gwybod, o ystyried y 400 erw y mae’r maes awyr eisoes yn berchen arnynt yn yr ardal, pam mae’r ehangu hwn yn cael ei ystyried, a pha fath o ehangu a datblygu sy’n cael eu hystyried ar gyfer y tir newydd pe byddai'n cael ei brynu gan Lywodraeth Cymru ar ran Maes Awyr Caerdydd.