Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 1 Tachwedd 2016.
[Yn parhau.] –gan gynnwys materion yn ymwneud â Waterhouse, a chodais hynny yn y fan yma, fod eich cydweithwyr a’r Llywodraeth yr oeddech chi’n ei chynrychioli ar y pryd wedi fy nghyhuddo o ddwyn anfri ar y Cynulliad. Wel, mae materion wedi eu codi ynglŷn ag ymddygiad swyddogion y cyngor ac aelodau’r cyngor ar y pryd yn gyhoeddus, mewn tystiolaeth i'r tribiwnlys, mewn tystiolaeth mewn llysoedd, ac mewn datganiadau mewn papurau newydd, sydd bellach yn agored i’w cwestiynu yn sgil yr euogfarn hon. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru bellach ychydig yn fwy tryloyw ac atebol, fel y mae wedi galw ar Lywodraeth y DU i fod yng nghyd-destun Swydd Efrog, o ystyried canfyddiadau'r achos llys hwn.