Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Roeddwn yn falch o weld, yr wythnos diwethaf, fod yr ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol wedi agor swyddfa yng Nghaerdydd, a dywedodd yr Athro Alexis Jay, sef arweinydd y DU ar gyfer yr ymchwiliad hwn, mai’r nod oedd creu gwybodaeth, diddordeb ac ymwybyddiaeth ymhlith dioddefwyr a goroeswyr y prosiect gwirionedd, a’u hannog i ddod ymlaen. O gofio’r ffaith fod yr ymchwiliad hwn mewn gwirionedd ar ei bedwerydd cadeirydd, a’i fod wedi cychwyn yn araf, beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud, naill ai drwy ddatganiadau yn y lle hwn, neu drwy unrhyw ddull arall, er mwyn annog dioddefwyr a goroeswyr cam-drin hanesyddol yng Nghymru i ddod ymlaen ac i rannu eu profiadau?