Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 1 Tachwedd 2016.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch sefydlu ystafelloedd dos ar gyfer pobl sy’n gaeth i gyffuriau yng Nghymru? Mae pryderon wedi eu mynegi wrthyf, ac rwyf i’n bersonol wedi gweld nodwyddau mewn mannau chwarae ysgolion, parciau a mannau eraill lle mae pobl yn cerdded o gwmpas yn aml. Dim ond yr wythnos diwethaf, es i i dŷ a oedd wedi’i fwrglera, ac roedd y lleidr yn gyfleus iawn wedi defnyddio’r adeilad hwnnw ar gyfer defnyddio cyffuriau. Y llynedd, cyn yr etholiadau, pan oeddem yn glanhau, rhai ohonom, yn ardal y Pil yng Nghasnewydd, roedd nodwyddau y tu ôl i'r ysgol gynradd, mewn parc. Weinidog, nid yw hynny'n dderbyniol yn y Gymru fodern hon.
Mae cynllun i sefydlu ystafell ddos gyntaf y DU i ganiatáu i bobl sy’n gaeth i gyffuriau chwistrellu’n ddiogel dan oruchwyliaeth yn debygol o gael y golau gwyrdd yn Glasgow, yn yr Alban. Mae'r newid hwn wedi ei gynllunio i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan y 500 o bobl sy’n gaeth i gyffuriau, yn ôl yr amcangyfrif, yn chwistrellu ar strydoedd Glasgow. A allem ni gael datganiad, os gwelwch yn dda, ynghylch pa un a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno prosiect tebyg yng Nghymru? Yn ail, a allwn ni gael, cyn gynted ag y bo modd, dadl yn y Siambr hon ar Gymru sy’n rhydd o gyffuriau anghyfreithlon? Diolch yn fawr iawn.