Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Gwnaf, yn bendant. Rwy’n credu y bydd Aelodau ar draws y Siambr am ymuno i groesawu’r datblygiadau rydym yn eu gweld ac mae’r datblygiadau yn yr etholaeth yn sicr i’w croesawu, fel y maent mewn mannau eraill. Ond mae galluogi plant a phobl ifanc i fynychu’r sefydliadau addysgol hyn yn gwbl hanfodol. Nid oes pwynt agor drysau os nad oes modd i fyfyrwyr gyrraedd yno. Felly, byddwn yn sicrhau, a byddwn yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i sicrhau bod gennym bolisi cynhwysfawr a chyfannol sy’n cynnig darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a thwf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ond sydd hefyd yn galluogi myfyrwyr i gyrraedd addysg cyfrwng Cymraeg ar ba lefel bynnag.