Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Mae’r cynlluniau datblygu’r gweithlu wedi bod yn llwyddiannus yn y maes addysg, ac rydym ni’n parhau i fuddsoddi yn y maes addysg i sicrhau bod y llwyddiant yn parhau a’n bod ni’n gallu adeiladu ar y sylfaen sydd gennym ni. Mae gennym ni, fel yr oeddwn yn ei drafod gyda’r Aelod yn y pwyllgor y bore yma, gytundeb yn y gyllideb ar hyn o bryd a byddwn ni’n parhau i drafod sut rydym ni’n gweithredu’r cytundeb yn y gyllideb i weld sut ydym ni’n datblygu Cymraeg i oedolion, a hefyd i ddatblygu’r Gymraeg yn y gweithlu, sy’n cynnwys y gweithlu addysg, lle rydym ni’n disgwyl gweld cynnydd yn y ddarpariaeth o addysg, ac mae hynny’n meddwl gwneud yn sicr bod gennym ni ddigon o athrawon sy’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.