Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Hoffwn atgoffa’r Aelod UKIP nad wyf wedi bod yn Ysgrifennydd y Cabinet ers 17 mlynedd, ond nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn y Siambr hon, hyd yn oed y rhai ohonom a fu yma ers y dechrau, yn cytuno bod addysg yng Nghymru lle byddem eisiau iddi fod. Rydym yn gallu gwneud yn well, ac mae’n rhaid i ni wneud yn well. Nid yw fy ngwahoddiad i ofyn i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd brofi’r cynigion sydd gennyf ar gyfer codi safonau yn ysgolion Cymru yn gyfaddefiad o fethiant; mae’n gyfaddefiad o hyder fy mod yn credu ein bod ar y trywydd cywir a bod pethau’n gwella yn y byd addysg yng Nghymru, ond rwyf am brofi hynny yn erbyn y safonau rhyngwladol gorau.