Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Mae Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig wedi sôn am fwriad ei Llywodraeth i leihau nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio yn y Deyrnas Unedig trwy gyflwyno amryw o gyfyngiadau newydd. O gydnabod pwysigrwydd myfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion ac, yn wir, economi ehangach Cymru, a gaf fi ofyn pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud o effaith y fath newidiadau ar Gymru ac, yn arbennig efallai, y cynnig i gysylltu cais ar gyfer fisa myfyrwyr gydag ansawdd y sefydliad y maen nhw’n gwneud cais amdano—rhywbeth y mae rhai arweinyddion prifysgolion Cymru wedi’i ddisgrifio fel ergyd cwbl ddinistriol?