Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch i chi unwaith eto, ac mae’n amlwg fod eich barn yn eithaf diamwys, ond rhaid i mi ddweud bod safbwynt Llywodraeth Cymru ar symudiad rhydd pobl wedi bod yn hynod o anghyson, wrth gwrs. Rydym yn gwybod ei fod wedi’i hepgor o egwyddorion y Llywodraeth ar gyfer gadael yr UE dros doriad yr haf. Ym mis Medi, dywedodd y Prif Weinidog wrthym fod mater symudiad rhydd pobl yn rhywbeth y bydd angen ei archwilio, ac erbyn 25 Medi, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wrth y BBC ni allwn gynnal symudiad rhydd pobl.
Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae symudiad rhydd yn un o saith maes allweddol cynllun y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Prydain yn Ewrop, felly efallai y gallech egluro i ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno gydag arweinydd eich plaid ar hyn, neu a ydych yn cytuno ag arweinydd eich Llywodraeth.