<p>Rhaglen Her Ysgolion Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:21, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwy’n meddwl eich bod wedi clywed gan bawb fod ysgolion sy’n tangyflawni’n cael eu gweddnewid gan arweinyddiaeth a disgwyliadau. Dylem ddisgwyl i’n pobl ifanc, waeth beth fo’u cefndir cymdeithasol, gael canlyniadau TGAU da iawn, ac yna dylai llawer ohonynt gael tiwtor ar unwaith wrth iddynt ddechrau ar eu safon uwch i’w tywys drwy’r broses o ymgeisio am le yn y prifysgolion gorau—dyna sut y mae sicrhau llwyddiant.