<p>Bil Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:28, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n sicr yn cytuno. Mae’r problemau sy’n gysylltiedig â’r model rhoi pwerau—ac rwy’n meddwl bod cytundeb ar yr angen i symud at fodel cadw pwerau—yn cael eu derbyn bron yn gyffredinol. Yr unig broblem yw bod model cadw pwerau yn dod yn hunandrechol os ceisiwch gadw unrhyw beth a phopeth a sinc y gegin yn fater a gedwir yn ôl. Yn yr amgylchiadau hynny, mae’n hunandrechol, ac unig ganlyniad hynny yw eich bod yn gorfod cael mwy a mwy o faterion wedi’u penderfynu yn y Goruchaf Lys mewn cryn dipyn o fanylder a chyda chryn dipyn o anhawster, ac nid yw’n rhoi yr hyn rydym i gyd ei eisiau mewn system ddeddfwriaethol, sef eglurder a sefydlogrwydd.