<p>Bil Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:29, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, po fwyaf o achosion sydd, y mwyaf o gostau a delir o’r pwrs cyhoeddus, ac mae hwnnw’n bendant yn rheswm arall pam y byddem eisiau eglurder a sefydlogrwydd, fel nad oes rhaid i faterion fynd i’r Goruchaf Lys ac fel nad oes rhaid cael dadleuon cyfreithiol braidd yn gymhleth a thimau o gyfreithwyr i’w datrys. Dyna un o’r pethau allweddol y ceisiwyd cael setliad cyfansoddiadol cliriach yn unswydd i’w hosgoi.