<p>Erthygl 50 a’r Setliad Datganoli</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:33, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Mae’r Aelodau’n gwybod bod y cwestiwn hwn yn ddarostyngedig i gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud yw y bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn yn y trafodaethau ar y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bydd hynny, wrth gwrs, yn golygu mynd ati’n ofalus i ystyried goblygiadau gadael i’r setliad datganoli.