6. 5. Dadl Plaid Cymru: Newid yn yr Hinsawdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:58, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch iawn o gyflwyno dadl Plaid Cymru i’r Cynulliad heddiw, ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd pawb yn y Cynulliad yn ei chefnogi, gan mai diben y ddadl yw dangos cefnogaeth o Gymru i’r cytundeb rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd a gafwyd ym Mharis ychydig cyn y Nadolig y llynedd. Rydym yn gwneud hynny cyn i’r cytundeb gael ei roi ar waith yn rhyngwladol ar 4 Tachwedd, a’r ffaith y bydd y cytundeb yn cael ei drafod yng Nghynhadledd y Partïon ym Marrakesh yn nes ymlaen y mis hwn. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynychu’r gynhadledd honno. Rwyf am ei grymuso ac rwyf am iddi fynd â neges gref o Gymru ein bod yn rhan o’r frwydr ryngwladol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’n bod yn dymuno chwarae ein rhan, a’n bod yn dymuno gwneud mwy na chwarae ein rhan—rydym yn dymuno arwain mewn cynifer o ffyrdd ag y gallwn fel cenedl.

Rwyf am i Gymru fod yn ‘arwr sero’, fel y dywedant, yn arwr di-garbon, a gweithio ar lwybr sy’n ein harwain i gyfeiriad gwahanol i ddefnyddio carbon ar gyfer ein hynni, a defnyddio ffynonellau amgen. Gwnaf hynny â diddordeb personol iawn hefyd, gan i mi ymweld yn ddiweddar iawn â Phen y Cymoedd yn etholaeth fy nghyfaill, etholaeth Vikki Howells, a’r cwm lle y cefais fy magu, sef Aberdâr a Chwm Cynon.

Pen y Cymoedd yw’r fferm wynt ynni adnewyddadwy fawr, sydd newydd gael ei hadeiladu ar draws Blaenau’r Cymoedd, ac sy’n ymestyn o Ogwr bron â bod, draw tuag at Ferthyr Tudful. Mae oddeutu saith deg o dyrbinau wedi cael eu codi uwchben Glofa’r Tŵr. Rydych yn pasio Glofa’r Tŵr er mwyn cyrraedd Pen y Cymoedd. Roedd fy hen ewythr yn gweithio yng Nglofa’r Tŵr. Yn wir, yn y 1950au, ef oedd arweinydd y criw a dorrodd drwodd o Aberdâr i’r Rhondda. Nid oeddent yn siarad gormod am hynny; nid oedd cymaint o gystadleuaeth rhwng y Cymoedd yn y dyddiau hynny. Ond fe dorrodd drwodd o Lofa’r Tŵr ac arwain y criw a dorrodd drwodd i uno’r pyllau o dan y mynydd hwnnw. Ac mae’r mynydd hwnnw bellach ar gau ar gyfer glo, ond mae’n agored ar gyfer gwynt, mae’n agored ar gyfer ynni adnewyddadwy, mae’n agored ar gyfer dyfodol newydd.

Ac mewn gwirionedd, mae’r ddadl hon yn ymwneud â chroesawu’r dyfodol. Nid ydym yn edrych yn ôl i’r gorffennol. Yn yr un dyffryn, mae pwll glo brig ym Mryn Pica lle y bu fy nhad yn gweithio. Nid wyf yn dymuno dychwelyd i’r gorffennol hwnnw, rwy’n dymuno dychwelyd i ddyfodol ynni yn y Cymoedd a gweddill Cymru sy’n wirioneddol ddiogel a chynaliadwy, sy’n darparu swyddi o ansawdd uchel ar gyfer ein pobl ifanc, ac sy’n iach—ac sy’n iach. Pan fydd yr oddeutu saith deg o dyrbinau hynny ym Mhen y Cymoedd yn ddiangen, neu pan fydd angen eu hailbweru, efallai, neu hyd yn oed yn cael eu tynnu i lawr am ein bod wedi symud ymlaen, ni fyddant yn gadael unrhyw beth ond mawn ar eu holau. Ni fyddant yn gadael tomenni glo i gladdu pentrefi, ac ni fyddant yn gadael llygredd i ddinistrio ein hafonydd. Felly, dyma pam y mae’n rhaid i ni groesawu chwyldro di-garbon go iawn a chwyldro ynni go iawn yng Nghymru. A dyna pam fod Paris mor bwysig. Pan fydd gennych sefyllfa lle y mae Tsieina—dywedir wrthym mai Tsieina yw’r llygrwr carbon mwyaf ac nad yw’n gwneud dim ynglŷn ag ynni adnewyddadwy, ond mae’n rhaid i mi ddweud wrthych fod Tsieina wedi goddiweddyd yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy—yn cwyno y bydd Trump yn tynnu allan o gytundeb Paris, mae’r byd wedi newid. Mae’r byd wedi newid ac mae’n rhaid i ni newid gyda hynny, ac yn fwy na hynny, mae’n rhaid i ni arwain y newid hwnnw yma yng Nghymru.

Felly rydym wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw, gan obeithio y bydd y Cynulliad cyfan yn ymuno gyda ni i anfon y neges honno. Mae hefyd yn gyfle i adolygu’r hyn y mae’r Llywodraeth wedi ei nodi ar gyfer ei hun a’r hyn y mae’r Llywodraeth yn debygol o’i gyflawni yn y dyfodol agos, gan fod y Llywodraeth hon wedi nodi targedau cadarnhaol ac uchelgeisiol da iawn, o ran polisi ac o ran deddfwriaeth. Felly, i ddechrau, mae gennym ostyngiad o 3 y cant yn ein basged ein hunain o ostyngiadau nwyon tŷ gwydr domestig i’w cyflawni o flwyddyn i flwyddyn o 2011 ymlaen. Rydym yn ceisio anelu at ostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr gros erbyn 2020 yn erbyn llinell sylfaen 1990, ymrwymiad y mae Gweinidogion wedi cadarnhau wrthyf ei fod yn parhau’n ymrwymiad i’r Llywodraeth hon, er nad yw yn y rhaglen lywodraethu. A phasiwyd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 gennym yn y Cynulliad blaenorol, a oedd yn nodi dull newydd o fesur a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys y nod hirdymor, erbyn 2050, o gyrraedd 80 y cant yn is na’r llinell sylfaen o allyriadau nwyon tŷ gwydr, a dyna ble rydych yn dechrau nesu at fod yn ddi-garbon o ddifrif, a lle y byddwn yn dechrau gweld newidiadau go iawn yng Nghymru.

Felly, rydym eisiau gwybod beth y mae’r Llywodraeth yn debygol o’i wneud o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) ac o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys saith nod lles gyda nifer ohonynt—tri ohonynt, mewn gwirionedd—yn ymwneud yn benodol â newid yn yr hinsawdd. Felly, y cyd-destun yw, os oes unrhyw un yn amau na ddylem gymeradwyo cytundeb rhyngwladol gan nad ydym yn senedd aelod-wladwriaethol ryngwladol, rwy’n derbyn hynny, ond mae ein deddfwriaeth eisoes wedi golygu ein bod bron â bod yno, felly pam na ddylem ddatgan yn rhyngwladol yn awr ein bod yn dymuno ymuno â chenhedloedd eraill i wneud hynny? Fodd bynnag, mae yno wendid, a byddai’n esgeulus peidio â defnyddio dadl fel hon i dynnu sylw at rai o’r gwendidau yn fframwaith y Llywodraeth ei hun.

Ceir cynnig o dan y Ddeddf amgylchedd am gyllidebau carbon a thargedau interim, ond ni fyddant yn cael eu cyhoeddi tan 2018, felly rydym eisoes yn colli peth o’r ysgogiad cychwynnol a’r symud ymlaen y dylem fod yn ei weld. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cynhyrchu rhaglen lywodraethu, ond cynhyrchodd raglen lywodraethu a chyllideb ddrafft cyn iddi gyhoeddi ei nodau ar gyfer Deddf cenedlaethau’r dyfodol, felly mewn gwirionedd dyna roi’r drol o flaen y ceffyl—siarad am yr hyn rydych yn ei wario cyn i chi benderfynu ar beth y dylech fod yn gwario’r arian hwnnw, a dyna’r ffordd anghywir o wneud pethau. Mae’n gyfle a gollwyd yn y cylch cyllideb hwn a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn ei gywiro yn y cylch cyllideb nesaf.

Ac yn anffodus, mae Pwyllgor Ynni a Newid yn yr Hinsawdd y DU sy’n archwilio—[Torri ar draws.] Mewn eiliad, os caf; rwyf am orffen y pwynt hwn. Mae Pwyllgor Ynni a Newid yn yr Hinsawdd y DU sy’n archwilio rhaglen y Llywodraeth ar gyfer lleihau allyriadau carbon yn dweud nad ydym yn mynd i gyrraedd ein targed ar gyfer 2050 oni bai ein bod yn rhoi camau mwy cadarn a mwy dwys ar waith. Ildiaf i Mark Reckless.