Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn fod Plaid Cymru wedi cyflwyno’r ddadl hon ar newid yn yr hinsawdd heddiw, yn enwedig yn y cyfnod yn arwain at Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, COP22, ym Marrakesh, y byddaf yn ei fynychu i gymryd rhan mewn trafodaethau ar yr her fyd-eang hon.
Fel y clywsom, y llynedd, roedd fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, yn ei rôl fel y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd, yn bresennol ym Mharis yn COP21 a gweithiodd gyda phartneriaid allweddol eraill i ychwanegu at y momentwm i sicrhau cytundeb byd-eang. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfod preifat gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon, ynghyd â grŵp bach o lywodraethau taleithiol a rhanbarthol eraill, sy’n cael eu cydnabod fel arweinwyr byd-eang, lle roedd yn trafod ein heffaith ar y cyd i weithredu ar yr hinsawdd. Felly, er na allwn gadarnhau’r cytundeb yn ffurfiol ein hunain, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i wneud hynny.
Felly, roedd 2015 yn flwyddyn bwysig, lle y gwelsom nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn cael eu mabwysiadu a’r cytundeb ar fframwaith rhyngwladol rhwymedigol ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn 21ain Cynhadledd y Partïon, lle y llofnodwyd cytundeb rhyngwladol newydd gan 195 o Lywodraethau cenedlaethol. Mae hyn yn gosod cyd-destun ar gyfer mynd i’r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd, ond mae hefyd yn gosod y cyd-destun ar gyfer datgarboneiddio’r economi fyd-eang.
O ran cynnig heddiw a phwynt 1, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig ac yn cefnogi cytundeb Paris. Mae ein Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn darparu deddfwriaeth i’n galluogi i chwarae ein rhan fyd-eang a chyflawni ar y cytundeb pwysig hwn. Yn rhan annatod o gytundeb Paris, mae amcan hirdymor i osgoi newid hinsawdd trychinebus ac mae’n gosod nod hirdymor ar gyfer allyriadau sero net yn ystod ail hanner y ganrif hon, a bydd pob gwlad yn cydweithio i gyrraedd y nod hwnnw.
Bydd cyd-Aelodau’n ymwybodol fod ein Deddf yr amgylchedd wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol eleni ac fe’i cynlluniwyd yn bwrpasol gyda’r cyd-destun rhyngwladol mewn golwg. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni leihau ein hallyriadau o leiaf 80 y cant erbyn 2050, ond yn bwysicach, mae yna ddarpariaethau yn y Ddeddf hefyd ar gyfer cynyddu’r targed hwn yn y dyfodol, gan ein galluogi i ddilyn y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg, polisi rhyngwladol a’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Felly, mae ein targed o 80 y cant fan lleiaf o ostyngiad erbyn 2050 yn unol â rhwymedigaethau ehangach y DU a’r UE.
Mae Cymru, ynghyd â’r DU, yn rhan o grŵp blaenllaw o wledydd sy’n rhoi camau deddfwriaethol ar waith i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Yn yr un modd, mae Deddf yr amgylchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni osod targedau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040, gyda chyfres o gyllidebau carbon pum mlynedd i adolygu ein cynnydd a sicrhau ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targedau. Hefyd, mae’n ofynnol i ni osod y targedau interim a’r ddwy gyllideb garbon gyntaf erbyn diwedd 2018, gan ystyried nifer o feysydd, megis gwyddoniaeth, technoleg a’r adroddiad tueddiadau’r dyfodol diweddaraf, i enwi ond ychydig, a bydd yn cymryd amser i gwblhau’r holl waith dadansoddi. Trwy osod targedau interim a chyllidebau carbon, gallwn sicrhau gostyngiad parhaus a blaengar, yn seiliedig ar dystiolaeth, technoleg a chyfnod arweiniol. Bydd angen i ni gymryd cyngor hefyd gan y corff ymgynghorol ynglŷn ag ar ba lefelau y dylid gosod y cyllidebau, gan sicrhau ein bod yn gadarn.
Roedd cytundeb Paris yn sefydlu mecanwaith byd-eang i wledydd gael cynlluniau datgarboneiddio cenedlaethol, i leihau allyriadau ac ailedrych ar y rhain bob pum mlynedd o 2020 ymlaen, gyda golwg ar gynyddu uchelgais yn y dyfodol. Mae hyn yn debyg ac yn cyd-fynd yn agos iawn â’n fframwaith Deddf yr amgylchedd, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi adroddiad ym mhob cyfnod cyllidebol o bum mlynedd, yn nodi cynigion a pholisïau ar gyfer cyflawni’r gyllideb garbon, gan gynnwys y meysydd cyfrifoldeb ar gyfer portffolio pob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru. Bydd y polisïau a’r cynigion hyn yn ffurfio ein cynllun cyflawni, gan ddarparu tryloywder ac atebolrwydd, ac wedi’u llunio i helpu i sicrhau arbedion ar allyriadau a darparu sicrwydd er mwyn hybu buddsoddi mewn economi carbon isel.
Y llynedd, yn COP21 daeth Llywodraeth Cymru yn un o’r llofnodwyr a sefydlodd y fenter RegionsAdapt, sy’n canolbwyntio ar y camau addasu y gallwn eu cymryd fel Llywodraethau taleithiol a rhanbarthol. Mae’r enghreifftiau hyn yn cadarnhau bod gweithio mewn partneriaeth ar lefel talaith a rhanbarth yn gallu darparu camau gweithredu ar raddfa fyd-eang, yn groes i’r myth nad oes unrhyw effaith fyd-eang i’n camau gweithredu yng Nghymru. Yn ehangach, mae’r cytundeb yn parhau’r ymrwymiad i helpu gwledydd sy’n datblygu, yn enwedig y gwledydd tlotaf a’r rhai mwyaf bregus. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’n rhaglen Cymru o blaid Affrica, sy’n dathlu ei dengmlwyddiant eleni. Dros y pum mlynedd diwethaf, plannwyd dros 4.2 miliwn o goed yn Mbale, Uganda. Bydd y prosiect, sy’n rhan o Maint Cymru, yn canolbwyntio ar leddfu tlodi a lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd. Fel rhan o’r dathliad, rwy’n ymwybodol fod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, yn Uganda yr wythnos diwethaf. Rwy’n credu ei bod yn amlwg iawn, o ganlyniad i’r prosiect hwn, fod dwsinau o blanhigfeydd coed yn y gymuned yn hyrwyddo amaeth-goedwigaeth wedi eu creu ar draws rhanbarth Mbale, ac mae hynny wedi codi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd i filoedd o bobl, yn Uganda ond gartref yma hefyd.
Gan droi at bwynt 2 y cynnig, unwaith eto rydym yn cefnogi hwn. Byddaf yn mynd â neges i Marrakesh ynglŷn â sut rydym ni, yma yng Nghymru, yn cymeradwyo’r cytundeb, ond hefyd am y ffordd mae gennym ddeddfwriaeth ar waith eisoes yma yng Nghymru i gyflawni’r nod pwysig hwn yn y tymor hir. Hefyd, ym Marrakesh, byddaf yn gallu tynnu sylw at ein deddfwriaeth arloesol iawn sydd eisoes yn ennyn cydnabyddiaeth ryngwladol, ynghyd â’n camau gweithredu ar wastraff, rheoli adnoddau naturiol a’n rhaglen Cymru o blaid Affrica. Fel rhan o fy ymweliad, ac fel is-lywydd Rhwydwaith rhyngwladol y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy, byddaf yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd yn tynnu sylw at yr effaith sylweddol rydym yn ei chael, ond hefyd byddaf yn defnyddio’r cyfle i ddysgu gan eraill.
Neges bwysig arall rwy’n meddwl sy’n rhaid i mi ei rhoi yw bod angen i ni gyflawni’r ymrwymiad hwn, nid yn unig am resymau deddfwriaethol, ond yn bwysicach, mae’r achos dros weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn glir iawn, ac mae’n achos sy’n hanfodol i’n ffyniant, ein cydnerthedd ac iechyd ein cymdeithas, gan fframio pob agwedd ar ein dyfodol.
Os caf droi at un neu ddau o bwyntiau a grybwyllwyd gan yr Aelodau, clywais yr hyn a ddywedodd Mark Reckless am y £70 miliwn, a gwnaed gwaith craffu cyn y pwyllgor y bore yma. Rwy’n credu ei bod yn dda iawn fod Simon Thomas wedi ein hatgoffa’n ddefnyddiol fod UKIP eisiau cael gwared ar y gyllideb newid yn yr hinsawdd yn gyfan gwbl. Mae camau gweithredu a pholisïau newid hinsawdd yn gwbl draws-lywodraethol, felly bydd y £70 miliwn ar draws yr holl weithgareddau portffolio, nid fy un i yn unig. Ond rwy’n gobeithio fy mod wedi tawelu meddwl aelodau’r pwyllgor y bore yma ynglŷn â hynny.
Mae gennyf bortffolio eang ac amrywiol iawn, ac rwy’n meddwl bod rhan o hynny, y rhan ynni adnewyddadwy o’r portffolio, yn gyffrous iawn, yn enwedig mewn ardaloedd lle rydym yn gweithio gyda phrosiectau ynni cymunedol. Yr wythnos diwethaf, agorais gynllun dŵr Taf Bargoed, ac rwyf hefyd wedi ymweld â fferm wynt gymunedol. Mae’n dda iawn gweld sut y mae’r cymunedau hyn yn dod ynghyd, a sut y gallwn eu cefnogi.
Cytunaf yn llwyr â Lee Waters ynglŷn â’r rhaglenni effeithlonrwydd ynni Arbed a Nyth. Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn gwybod mwy am gyflwr ein tai a’n stoc dai, ac rwy’n cyd-ariannu arolwg gyda fy nghyd-Aelod, Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mewn perthynas â chael y wybodaeth honno.
Rwy’n meddwl bod y pwynt a wnaeth Steffan Lewis ynglŷn ag a fyddwn yn gallu bod yn aelod yn ein hawl ein hunain ar ôl yr UE yn un da iawn. Pa mor dda fyddai hynny, gallu mynd a gwneud hynny? Felly, mae hynny’n rhywbeth y gallwn edrych arno. Cyfeiriodd Llyr Gruffydd at adroddiad ‘Ynni Cymru: newid carbon isel’, a bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ymateb i hynny cyn gwyliau’r Nadolig. Hefyd, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, nid ydych am ddadlau eto ynglŷn â newid yn yr hinsawdd. Mae’r dystiolaeth wyddonol yn eglur tu hwnt. Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd. Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi’u hachosi gan bobl yn hynod o debygol o fod yn brif achos. Mae dylanwad pobl ar ein hinsawdd yn glir iawn, ac allyriadau anthropogenig diweddar o nwyon tŷ gwydr yw’r rhai uchaf mewn hanes.
Felly, i gloi, rwy’n croesawu’r ddadl hon heddiw ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gynrychioli Llywodraeth Cymru ym Marrakesh yn COP22.