7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad i Fand Eang

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:58, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Nid yw ei gwelliant ychwaith yn dangos unrhyw fath o frys i ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i fynd ati i ddatrys y diffyg signalau ffonau symudol mewn ardaloedd helaeth o Gymru. Y tu hwnt i fwriad llac i weithio gyda’r rheoleiddiwr a gweithredwyr rhwydwaith, a bwriad i ddiwygio’r system gynllunio, a bwriad i bwyso a mesur cynllun gweithredu ffonau symudol Llywodraeth yr Alban, ychydig iawn o ymrwymiadau a roddwyd i dawelu meddyliau cymunedau ledled Cymru sydd heb gysylltedd band eang digonol neu signalau ffonau symudol.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, nid wyf am fod yn angharedig wrth y Llywodraeth; yn ddi-os mae prosiect Cyflymu Cymru wedi gwella argaeledd band eang ffeibr ar draws Cymru, er budd trigolion a busnesau yn yr ardaloedd ymyrryd, ac rwy’n cyffroi’n arw pan welaf fan Openreach wedi parcio mewn mannau amrywiol yn fy etholaeth, yn gweithio ar gabinet gwyrdd arbennig, ond gadewch i ni ddatgan y ffeithiau yma: ni ellir gwadu bod Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni ei huchelgais yn 2011 i, ac rwy’n dyfynnu,

‘sicrhau y bydd gan bob cartref a phob busnes yng Nghymru fynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf erbyn 2016, gyda’r uchelgais y bydd gan 50% neu’n fwy gyswllt 100Mbps.’

Nawr, y realiti yw ein bod ymhell o fod yn darparu mynediad band eang cyffredinol at fand eang y genhedlaeth nesaf, ac yn ôl adroddiad Ofcom, ‘The Connected Nations Report 2015’, dim ond 26 y cant o safleoedd sydd â chyflymder lawrlwytho o 100 Mbps. Felly, dim ond hanner yr amcan a nododd y Llywodraeth yw hynny. Nawr, ychydig wythnosau yn ôl, ymatebodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, i’r Gweinidog mewn perthynas â datganiad, a’r hyn a ddywedodd oedd bod y Llywodraeth wedi goraddo mewn perthynas â band eang cyflym iawn ac wedi methu cyflawni, a gwrthododd y Gweinidog ei sylwadau. Wel, mae’n gywir: mae’r pyst gôl wedi cael eu symud dro ar ôl tro, cafodd pobl eu troi ymaith gan esgusodion, ac mae busnesau wedi methu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae etholwyr yn dal i ofyn i mi pam na all Llywodraeth Cymru roi gwybod iddynt pa bryd y bydd eu busnesau neu eu heiddo’n cael band eang cyflym iawn. Maent yn cael clywed ‘cewch’, yna cânt glywed ‘efallai’, ac yna, ‘na’. Y cyfan y mae pobl ei eisiau yw i Lywodraeth Cymru ddweud wrthynt yn agored pa un a yw eu gwasanaeth yn mynd i gael ei uwchraddio. Felly, byddwn yn annog y Gweinidog i gyflwyno amserlen ar gyfer eich ymrwymiad i ddarparu contract i ymestyn mynediad band eang cyflym iawn i bob eiddo yng Nghymru.

Nawr, o ystyried y ffaith fod gennych gyfran o’r budd wedi ei chynnwys yn y contract Cyflymu Cymru, lle y mae Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfran o’r elw pan fo’r lefelau manteisio yn cyrraedd mwy na 21 y cant mewn unrhyw ardal, rwy’n gofyn pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn canolbwyntio ar fand eang fel y dylai, a pham y mae ymelwa wedi bod mor druenus hyd yn hyn. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod 0.6 y cant o ddyraniad y gyllideb wreiddiol ar gyfer prosiect Cyflymu Cymru wedi’i bennu ar gyfer marchnata a chyfathrebu, felly byddwn yn dweud nad yw’n syndod mai gan Gymru y mae’r lefel uchaf o hyd o bobl nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd ym Mhrydain, a byddwn yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn trafferthu annog pobl i’w defnyddio, er ei bod yn gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd yn ceisio ei darparu. Yn wir, amlygodd y gwerthusiad o raglen band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru ddiffyg cydlyniad a dull strategol o farchnata a chyfathrebu a beirniadodd darged manteisio Llywodraeth Cymru o 50 y cant am ei ddiffyg uchelgais, pan fo disgwyl eisoes i’r lefel fanteisio gyrraedd 80 y cant erbyn 2020. Felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Gweinidog nodi heddiw sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu annog pawb i fanteisio ar fand eang y genhedlaeth nesaf a sut y mae’n bwriadu gwella llythrennedd digidol, ac rwy’n awgrymu y bydd hynny’n hanfodol ar gyfer ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

Nawr, mae fy mewnflwch, yn rheolaidd, yn llawn o bobl sy’n pryderu am nad oes ganddynt wasanaeth band eang. Bob dydd, rwy’n cael mwy nag un e-bost yn gofyn i mi pa bryd y maent yn mynd i gael band eang yn eu hardal hwy. Y mater arall sy’n llenwi fy mag post—neu fy mewnflwch, mae’n debyg nawr, yn agosach ati—yw signalau ffonau symudol. Nawr, byddwn yn dweud ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r dulliau datganoledig sydd ar gael iddi er mwyn gweithio gyda’r rheoleiddiwr a’r gweithredwyr rhwydwaith i hyrwyddo buddsoddiad yn y seilwaith telathrebu a defnydd o’r rhwydwaith. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod ein cynnig hefyd yn dangos ymagwedd Llywodraeth yr Alban. Nid oes gan Lywodraeth yr Alban unrhyw bwerau ychwanegol i’r rhai sydd gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn, ac eto maent wedi sefydlu cynllun gweithredu darpariaeth symudol, sy’n ymrwymo i ryddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd mewn ardaloedd anfasnachol, diwygio’r system gynllunio i gefnogi buddsoddiad masnachol mewn seilwaith symudol, a gwella asedau sector cyhoeddus ar gyfer y diwydiant telathrebu, a gwahanol fathau o waith ar y cyd gyda’r diwydiant telathrebu. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwelliant i’r cynnig hwn yn ymrwymo i ystyried y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth yr Alban. Pam na wnewch chi fwrw iddi a chyflwyno cynllun tebyg ar gyfer Cymru?

Byddwn yn dweud fod Llywodraeth Cymru yn gyson yn gorfod ceisio dal i fyny yma. Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi rhoi argymhellion ar waith i’w gwneud yn haws uwchraddio safleoedd presennol ac adeiladu mastiau newydd, ac er gwaethaf sylwadau a gyflwynwyd gan y gweithredwyr rhwydwaith darpariaeth symudol, a gohebiaeth gennyf fi at eich Gweinidog blaenorol, Carl Sargeant, rydym yn dal i fod heb ddiwygio hawliau datblygu a ganiateir yma yng Nghymru, ac rydym yn llusgo ar ôl Lloegr a’r Alban. Os gwelwch yn dda, Weinidog, peidiwch â dweud wrthyf eich bod yn mynd i gael trafodaethau gyda chyd-Aelodau. Peidiwch â dweud wrthyf fod eich swyddogion yn siarad â swyddogion eraill. Dywedwch wrthyf fod gennych gynllun gweithredu wedi’i gytuno, a bod gennych amserlen.

Mawr obeithiaf y bydd yr Aelodau’n cyfrannu at y ddadl hon heddiw, ac rwy’n mawr obeithio cael ymateb cadarnhaol a chynllun gweithredu gan y Gweinidog.