Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth yma, ac yn falch hefyd o gydnabod bod y Ceidwadwyr wedi derbyn ein dau gwelliant ni fel plaid. Felly, band llydan uwch gyflym neu band eang cyflym iawn—rydym ni yn naturiol yn derbyn ac yn dathlu’r ffaith, yn wir, fod dros 89 y cant o gartrefi yng Nghymru erbyn hyn yn gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn. Mae’n bwysig cydnabod hynny, ond, wrth gwrs, mae’r profiadau yn rhai o awdurdodau lleol Cymru yn hollol wahanol. Mae rhai yn gwneud yn dda iawn—ym Merthyr, mae 98.32 y cant o dai yn gallu derbyn band eang cyflym iawn, ac ym Mlaenau Gwent, mae 97.9 y cant o dai yn gallu derbyn yr un un band eang. Ond, mae rhai awdurdodau lleol eraill—yn bennaf, rhai gwledig—yn colli allan.
Fel rydw i wedi dweud yn y Siambr yma o’r blaen, yng Ngheredigion, dim ond 64.44 y cant o dai sy’n gallu derbyn band eang cyflym iawn. Ym Mhowys, dim ond 65.67 y cant o dai sy’n gallu derbyn yr un un band eang cyflym iawn. Mae ffigurau BT yr wythnos yma yn cadarnhau bod llai nag 1 y cant o dai Cymru ar hyn o bryd yn derbyn cyflymder is na 2 Mbps a llai na 7 y cant o dai Cymru o dan 10 Mbps. Rydym ni’n deall, wrth gwrs, bod sicrhau mynediad i’r gwasanaeth yma yn mynd i fod yn anoddach mewn rhai ardaloedd gwledig ac mewn rhai ardaloedd trefol hefyd lle mae problemau lleol, fel cyfyngiadau cynllunio neu rwystrau ffisegol sy’n eu hatal rhag gosod ceblau. Tra’i bod hi’n amlwg bod yna angen mwy o wariant i dargedu’r ardaloedd hyn, mae hefyd angen cydnabod bod angen gweld mwy o gydlynu lleol rhwng unigolion a grwpiau cymunedol er mwyn delifro gwasanaeth uwch gyflym.
Mae cynllun mynediad i fand eang Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn un sy’n galluogi unigolion i wneud cais am gymorth ariannol, ond pwrpas ein gwelliant ni heddiw ydy rhoi rôl flaenllaw i lywodraeth leol yng Nghymru, fel bod yna ddisgwyl ar gynghorau lleol i gydweithio gyda chymunedau a chydlynu’r anghenion sirol mewn ffordd strategol, yn hytrach na’r system adweithiol sydd yn nodweddiadol o’r system bresennol sydd gennym ni.
Unwaith bod yr isadeiledd mewn lle, mae’n amlwg bod yn rhaid i ni wneud y mwyaf o’r cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sy’n codi o’r mynediad hwnnw. Mae’n werth nodi, wrth gwrs, bod llai nag un o bob tri person sy’n gallu cael gwasanaeth uwch gyflym yn bachu ar y cyfle hwnnw. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyflwyno ymgyrch marchnata a chyfathrebu er mwyn hyrwyddo’r defnydd o fand eang unwaith ei fod ar gael mewn ardaloedd, ond mae angen edrych ar effeithiolrwydd yr ymgyrch hon i sicrhau bod mwy o unigolion a busnesau yn gwneud defnydd o’r dechnoleg newydd sydd ar gael.
Mae’r dechnoleg yma’n hollbwysig i Gymru wrth i ni geisio gau’r gagendor economaidd gyda gweddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Rwy’n croesawu’r ffaith bod BT Cymru yn awr yn profi gwasanaeth G.fast yn Abertawe ac yn edrych ymlaen at weld adolygiad y peilot yma. Ond, wrth i ni groesawu’r ffaith bod rhai ardaloedd Abertawe yn derbyn cyflymdra oddeutu 500 Mbps fel eu band eang cyflym iawn fel rhan o’r peilot yma, mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio am yr ardaloedd hynny sydd yn dal ddim yn derbyn gwasanaeth sylfaenol. Ar sail hynny, rwy’n annog Aelodau i gefnogi’r gwelliant sydd gerbron. Diolch yn fawr.