7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad i Fand Eang

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 4:12, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad ac rwy’n croesawu’n fawr y penderfyniad gan Google Digital Garage i ddod i Gymru am gyfnod o dri mis i sefydlu cynlluniau hyfforddi yma yng Nghymru—yn wir, roedd y ddau ddiwrnod cyntaf yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud llawer iawn â hwy er mwyn dod â hwy i Gymru mewn gwirionedd, er mwyn i ni gael yr hyfforddiant digidol hwn.