Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch i chi, David, am eich trydydd ymyriad yn ein dadl heddiw—mae i’w groesawu.
Dylwn ddweud, er mwyn bod yn garedig wrth y Gweinidog, fy mod yn cytuno’n llwyr â Janet Finch-Saunders: credaf fod y Gweinidog yn angerddol iawn ynglŷn â’i maes yma ac rwy’n croesawu hynny’n fawr. Mae hi wedi cytuno i ddod i wahanol etholaethau gydag Aelodau ac esbonio’r sefyllfa. Hyd yn oed os oes ychydig gannoedd o bobl yn berwi o gynddaredd, mae hi’n barod i ddod, ac rwy’n meddwl y dylid croesawu hynny’n fawr. Rwy’n talu teyrnged hefyd i BT sydd hefyd yn ymgysylltu’n dda, rwy’n meddwl, gydag Aelodau’r Cynulliad—bob amser yn barod i gyfarfod a gohebu hefyd, a dod i etholaethau yn ogystal. Felly, diolch i’r Gweinidog am hynny.
Mae yna ychydig o faterion yr hoffwn eu crybwyll. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, mae yna rwystredigaeth fawr—mae’r Gweinidog yn iawn ac mae hi’n derbyn hynny—ond yn sicr, ceir rhwystredigaethau mewn ardaloedd gwledig a hefyd mewn ardaloedd trefol yn ogystal, byddwn yn dweud, fel y mae David Rees wedi nodi. Fe gymerais gyfraniad Neil Hamilton—gwrandewais yn ofalus iawn arno—cyfraniad da iawn, ac wrth gwrs mae ei ranbarth yn cynnwys naw etholaeth, rwy’n credu, a dim ond un etholaeth mewn gwirionedd sydd â chyflymder band eang cyflym iawn sy’n uwch na chyfartaledd Cymru. Rwy’n meddwl bod hynny’n dangos mai problem wledig yw hon i raddau helaeth—nid yn llwyr, ond i raddau helaeth, mae’n broblem wledig. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cysylltu hefyd â phwyntiau Janet Finch-Saunders mewn perthynas â’r gymuned ffermio. Gwyddom fod y broblem fwyaf yng nghefn gwlad Cymru—dyna ble y mae busnesau ffermio wedi’u lleoli—ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy a mwy o bwysau ar sicrhau bod busnesau ffermio yng Nghymru yn cyflwyno ceisiadau a dogfennau penodol ar-lein. Wel, yn syml iawn, ni allant wneud hynny os nad oes ganddynt fand eang da, sy’n gyflym a dibynadwy.
Gwnaeth y Gweinidog y pwynt hefyd, yn gwbl briodol, fod yna newidiadau i’r ffordd y mae rhwydweithiau symudol a gweithredwyr symudol—. Mae darpariaeth symudol yn newid ac yn esblygu. Mae’r ddarpariaeth symudol ar gyfer data bellach yn ogystal â galwadau llais, ac rwy’n derbyn hynny. Mae hynny wedi digwydd yn fwy yn y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n derbyn bod yna faterion yn codi yn hynny o beth o ran darparu band eang. Ond mewn sawl ffordd, gallai hynny fod yn ateb, wrth gwrs, i ddarparu band eang mewn ardaloedd penodol; os oes yna ddarpariaeth symudol dda sy’n gyflym ac yn ddibynadwy, yna, wrth gwrs mae hynny hefyd yn ateb y galw am fand eang, drwy fynediad dros y rhwydwaith symudol.
Galwodd Dai Lloyd hefyd, yn ei gyfraniad fel llefarydd Plaid Cymru, am sefydlu cynllun lleol pwrpasol i sicrhau nad oes unrhyw gartref neu fusnes yng Nghymru yn mynd heb fynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf. Mae rhinwedd i hyn yn bendant, rwy’n meddwl, ac rwy’n sicr yn credu bod hwnnw’n fater y dylid ei archwilio. Tynnodd sylw hefyd, wrth gwrs, at Flaenau Gwent a’r ffaith fod 99 y cant o Flaenau Gwent â mynediad at fand eang cyflym iawn. Ond wrth gwrs, mynediad yw hynny; nid yw’n golygu eu bod wedi cael band eang, mae’n golygu eu bod wedi cael mynediad ato. Ac fe welwch, mewn gwirionedd, mai cyfran fechan yn unig o’r bobl ym Mlaenau Gwent sy’n gallu cael mynediad at y band eang sydd wedi manteisio ar hynny mewn gwirionedd, a dyna, wrth gwrs, yw pwynt ein dadl heddiw o ran tynnu sylw at y diffyg yn y lefelau manteisio, sy’n bwynt a wnaeth ef ei hun yn nes ymlaen.
Soniodd hefyd am y ffaith fod cysylltedd digidol bellach yn rhan hanfodol o fywyd modern, sy’n cyfrannu nid yn unig at ffyniant economaidd a darparu cynnydd pendant mewn sgiliau a pherfformiad addysgol, ond sydd hefyd yn effeithio’n gadarnhaol ar fyw’n iach a’r amgylchedd. Yn wir, rwy’n cytuno’n llwyr â hynny, ac rwy’n cytuno’n llwyr fod mynediad at y band eang yn prysur ddod yn hawl ddynol, ac nid yn fraint.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, buaswn yn dweud mai bwriad y Ceidwadwyr Cymreig yn y cynnig hwn heddiw yw galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo llawer mwy o amser, ymdrech ac adnoddau i sicrhau bod gennym seilwaith telathrebu sy’n addas ar gyfer economi Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain. Boed ar gyfer cysylltu â theulu neu ffrindiau, neu helpu plant i astudio yn eu cartrefi a gwneud eu gwaith cartref, neu gynnal twf ar gyfer busnesau lleol, mae cysylltedd digidol bellach yn rhan hanfodol o’n bywydau o ddydd i ddydd ac ni all Cymru fforddio bod ar ei hôl hi ym Mhrydain, fel y mae ar hyn o bryd yn anffodus. Ond mewn perthynas â’r nifer sy’n manteisio ar fand eang a darpariaeth symudol, rwy’n credu bod yn rhaid i hyn fod yn brif flaenoriaeth, oherwydd yn sicr fe hoffwn fod yma ymhen ychydig flynyddoedd pan fydd fy mewnflwch yn llawer llai llawn o bobl yn cysylltu â mi i drafod problemau gyda’r band eang a ffonau symudol. Ond rwy’n sicr yn gobeithio y bydd ymrwymiad presennol Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd gan Gymru gyfan fand eang cyflym iawn erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn yn cael ei gyflawni. Rwyf eisiau sefyll yma yn y dyfodol a dweud, ‘Diolch, Lywodraeth Cymru, am gyflawni hyn ac am leihau cynnwys fy mewnflwch yn sylweddol.’ Ond rwy’n bendant yn cymeradwyo’r cynnig hwn i’r Cynulliad heddiw ac yn annog yr Aelodau i’w gefnogi.