Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch. Mae’n ddrwg gennyf, nid wyf erioed wedi’i wneud o’r blaen. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi cyflwyno’r cynnig ger eich bron heddiw i nodi ei bod hi’n Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint ac i gydnabod, er bod cynnydd wedi’i wneud, fod cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru yn parhau i fod ymysg y gwaethaf yn Ewrop. Canser yr ysgyfaint yw’r canser sy’n lladd fwyaf ledled y byd. Bob blwyddyn, mae mwy na 1.5 miliwn o bobl yn marw o ganser yr ysgyfaint. Yn y DU, mae un person yn marw bob 15 munud, ac erbyn y bydd y ddadl hon ar ben, bydd canser yr ysgyfaint wedi hawlio pedwar bywyd arall.
Yma yng Nghymru, mae canser yr ysgyfaint yn hawlio bywydau tua 2,000 o bobl bob blwyddyn, sef chwarter yr holl farwolaethau canser. Diolch i’r drefn, mae datblygiadau mewn diagnosteg a thriniaethau canser yn golygu nad yw cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint bellach yn ddedfryd farwolaeth awtomatig. Mae mwy a mwy o bobl yn goroesi, ond yn anffodus, nid oes digon.
Yn ddiweddar, lansiodd Cynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU ymgyrch, 25 erbyn 25, sy’n ceisio codi cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ar ôl pum mlynedd yn y DU i 25 y cant erbyn 2025. Caiff yr ymgyrch ei chefnogi gan Cymorth Canser Macmillan, sy’n aelodau sefydlol, a chaiff ei chefnogi’n llawn gan grŵp UKIP yn y Cynulliad.
Mae ein cyfraddau goroesi ar ôl pum mlynedd ymysg y gwaethaf yn Ewrop. Yn wir, yn yr astudiaeth ddiweddaraf ar draws Ewrop, roedd Cymru ar safle 28 o 29. Dim ond 6.6 y cant o gleifion canser yr ysgyfaint yng Nghymru sy’n dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y diagnosis, o gymharu ag 16 y cant yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau ac wedi buddsoddi mewn gofal canser yng Nghymru. Mae cyfraddau goroesi canser yn gyffredinol wedi gwella, ac mae cynnydd wedi bod yn y cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn ar gyfer canser yr ysgyfaint, ond mae cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ar ôl pum mlynedd yn dal i lusgo ar ôl gwledydd eraill y DU a’n cymheiriaid Ewropeaidd.
Yn syml, nid ydym yn gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn ddigon cynnar. Yng Nghymru, 12 y cant yn unig o gleifion canser yr ysgyfaint sy’n cael diagnosis yn ystod camau cynnar y clefyd. Mae’r mwyafrif llethol o gleifion yn cael diagnosis yn ystod cam 3 neu gam 4, sy’n lleihau eu gobaith hirdymor o oroesi yn sylweddol. Yn ddiweddar, cynhaliodd Cynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU arolwg, a gwelwyd mai mynediad at brofion ymchwiliol ac atgyfeirio sy’n peri fwyaf o oedi o hyd rhag cael diagnosis cyflym, gyda 36 y cant o’r cleifion a holwyd yn aros dros fis i gael diagnosis pendant ar ôl amheuaeth gychwynnol o ganser, ac 17 y cant yn aros dros ddau fis. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella mynediad at brofion diagnostig, ond mae’n rhaid i ni wneud mwy.
Cynhaliodd Cancer Research UK astudiaeth o wasanaethau canser yng Nghymru, a gwelsant fod problemau gyda chapasiti diagnostig yn peri oedi cyn bod rhai cleifion yn cael diagnosis pendant, ac felly cyn dechrau triniaeth. Gwelsant hefyd fod amrywio ym mynediad uniongyrchol meddygon teulu at brofion diagnostig. Yn ôl Cancer Research UK, mae angen ymchwilio ymhellach i ddeall y capasiti sydd ei angen o ran gweithlu a chyfarpar i ateb y galw. Bydd y cynnydd yn nifer yr achosion o ganser, yn ogystal â phenderfyniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i ostwng y trothwy atgyfeirio pan fo amheuaeth o ganser, yn cynyddu’r galw am brofion diagnostig yn y blynyddoedd i ddod.
Argymhellodd Cancer Research UK y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o gyflwr mynediad uniongyrchol at brofion diagnostig ar gyfer meddygon teulu. Fodd bynnag, un o’r rhwystrau mwyaf i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint o hyd yw diffyg ymwybyddiaeth ymysg cleifion. Mewn arolwg diweddar o gleifion canser yr ysgyfaint, 27 y cant yn unig o gleifion a aeth i weld eu meddyg oherwydd eu bod wedi sylwi eu bod yn profi arwyddion a symptomau o ganser yr ysgyfaint. Nid oedd dros 40 y cant o’r cleifion yn gwybod fod poen yn y frest, colli pwysau a blinder yn symptomau posibl o ganser yr ysgyfaint. Dyma pam fod dadleuon fel yr un rydym yn ei chael heddiw a digwyddiadau fel Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint mor hanfodol. Mae’n rhaid i ni wneud popeth a allwn i gynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau canser yr ysgyfaint ymhlith cleifion.
Yr haf hwn, am y tro cyntaf, cynhaliodd y GIG yng Nghymru ymgyrch ymwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint. Dylid llongyfarch Llywodraeth Cymru am gymryd y cam hwn. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i gynnal yr ymgyrch hon bob blwyddyn. Mae Lloegr wedi bod yn cynnal yr ymgyrch ers 2010 ac wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth a chynyddu nifer y cleifion sy’n cael diagnosis ar gam 1. Efallai mai dyma pam y mae Lloegr wedi bod mor llwyddiannus yn cynyddu ei chyfradd oroesi ar ôl pum mlynedd, sydd wedi dyblu bron ers 2004 i ychydig dros 16 y cant.
Mae diagnosis cynnar yn un o’r pethau y mae’n rhaid i ni eu gwella yma yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod cleifion, ar ôl cael diagnosis, yn cael y lefel orau posibl o ofal. Dangosodd arolwg profiad cleifion canser Cymru yn ddiweddar fod pobl sydd â chanser yr ysgyfaint wedi cael profiadau gwaeth na phobl sydd â mathau eraill o ganser. Nid oes gan un o bob 10 o gleifion Cymru fynediad at nyrs glinigol arbenigol. Mae Macmillan Cymru wedi galw am well cymorth pan fydd pobl yn cael diagnosis ac yn aros am driniaeth ar gyfer canser yr ysgyfaint. Maent hefyd wedi gofyn i ni sicrhau bod pawb sy’n cael diagnosis yn cael eu hanghenion wedi’u hasesu a’u cynnwys mewn cynllun gofal ysgrifenedig, fel yr amlinellir yn y cynllun canser cyfredol.
Mae adroddiad Cynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y safonau canser cenedlaethol presennol ar gyfer Cymru, y dylid eu diweddaru wedyn ar sail yr argymhellion a ddarperir; adolygu gwasanaethau diagnostig ar gyfer canser yng Nghymru gan ganolbwyntio ar ganser yr ysgyfaint; sicrhau bod gan bob claf fynediad at nyrs profion clinigol canser yr ysgyfaint ym mhob agwedd ar eu gofal; a gweithio gyda chyrff eraill i asesu a mynd i’r afael ag amrywiadau lleol mewn triniaeth canser yr ysgyfaint. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â’r argymhellion hyn. Hyd yn oed pe baem yn cyflawni 25 erbyn 25, mae’r rhan fwyaf o gleifion canser yr ysgyfaint yn marw o’r clefyd o hyd ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y cleifion nad ydynt yn goroesi yn marw gydag urddas. Mae’n ffaith drist mai 46 y cant yn unig o’r rhai a fu farw o ganser a gafodd ofal lliniarol arbenigol.
Canfu arolwg Marie Curie diweddar nad yw saith o bob 10 o bobl sydd â salwch terfynol yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Os yw’r tueddiadau presennol yn parhau, bydd 7 y cant o boblogaeth Cymru yn byw gyda chanser erbyn 2030 a bydd nifer y bobl sy’n marw yng Nghymru yn cynyddu 9 y cant. Rydym yn gwybod nad yw oddeutu 6,200 o bobl sy’n marw bob blwyddyn yn cael y gofal lliniarol sydd ei angen arnynt, ond ffigurau Marie Curie yw’r rhain—nid ffigurau’r GIG ac felly nid ydynt yn bwydo i mewn i gynllunio’r gweithlu.
Yn Lloegr, mae’r GIG yn cynnal arolwg o’r bobl sydd wedi cael profedigaeth, o’r enw ‘VOICES’, sy’n dangos lefel y gofal a’r gefnogaeth a roddir i deuluoedd ar ddiwedd bywydau eu hanwyliaid. Nid ydym yn cynnal yr arolwg hwn yng Nghymru. Os ydym am sicrhau y gall pawb sydd angen gofal lliniarol arbenigol ei gael a’n bod am sicrhau y gellir nodi, dogfennu, adolygu, parchu a gweithredu ar anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigolion ar gyfer gofal diwedd oes, yna mae’n rhaid i ni gynnal arolwg o’r bobl sydd wedi cael profedigaeth yma yng Nghymru.
Yn olaf, hoffwn fynd i’r afael â’r gwelliannau. Byddwn yn cefnogi dau welliant y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n destun gofid fod cynnydd amlwg wedi bod yn nifer y menywod sydd â chanser yr ysgyfaint. Mae cyfraddau achosion mewn dynion un rhan o dair yn uwch na menywod bellach, o gymharu â dwbl 10 mlynedd ynghynt. Fodd bynnag, rwy’n eich annog i wrthod gwelliannau Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Nid ydym yn beirniadu Llywodraeth Cymru na’r diffyg buddsoddiad. Oes, mae cynnydd wedi’i wneud, yn enwedig mewn cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn, ond mae llawer iawn mwy y gallwn ei wneud. Y prif reswm dros gynnal y ddadl hon heddiw yw codi ymwybyddiaeth o’r materion a gweithio gyda’n gilydd i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint.
Ni ddylai Cymru fod yn safle 28; dylem fod yn arwain y ffordd. Mae gennym wasanaeth iechyd gwych gyda staff hynod o ymroddedig; gadewch i ni roi’r adnoddau iddynt wella gofal canser. Gadewch i ni sicrhau fod pawb sydd â chanser yr ysgyfaint yn cael diagnosis cynnar a thriniaeth briodol. Gadewch i ni sicrhau hefyd fod gan bawb sydd ei angen fynediad at ofal lliniarol arbenigol a sicrhau y gall pawb farw gydag urddas pe bai’r amser yn dod. Rwy’n eich annog i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.