Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhoi pleser mawr i mi gymryd rhan yn y ddadl hon a gyflwynwyd gan UKIP heddiw. Hoffwn gynnig gwelliant 1 a gwelliant 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Mae gwelliant 2 yn gresynu at y ffaith fod nifer cleifion benywaidd canser yr ysgyfaint wedi cynyddu dros draean yn ystod y degawd diwethaf. Yn wir, mae’r gyfradd ar gyfer menywod yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn Ewrop ac wedi dringo o 54.8 y cant o achosion ym mhob 100,000 i 69.2 y cant, sydd, yn ôl safonau unrhyw un, yn naid eithaf sylweddol. Rydym hefyd yn cynnig gwelliant 4, sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru wella mynediad at sgrinio, addysg ac ymwybyddiaeth.
Nawr, yng ngwelliant Llywodraeth Cymru i’r cynnig hwn, nodaf, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi crybwyll bod yna £1 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal diwedd oes. A gaf fi ofyn i chi egluro a yw hwnnw’n unig ar gyfer canser yr ysgyfaint, ar gyfer gwasanaethau canser, neu ar gyfer gofal diwedd oes yn gyffredinol ac a fyddai’n cynnwys oedolion a phlant, oherwydd, wrth gwrs, byddai hynny’n dangos faint o arian y byddem yn meddwl ei fod yn dod i bobl sy’n dioddef â chanser yr ysgyfaint? Yn y gwelliant, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych hefyd yn sôn am y cynllun cyflawni ar gyfer canser a byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn egluro pa bwyslais, yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser ar ei newydd wedd, fydd yn cael ei roi ar ganlyniadau canser yr ysgyfaint, oherwydd, fel y dywedodd Caroline Jones mor fedrus, mae mwy o farwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i ganser yr ysgyfaint na chanser y fron a chanser y coluddyn gyda’i gilydd, ac eto mae’n achos llawer llai adnabyddus o ran codi arian ar gyfer ymchwil.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn dadlau y dylid rhoi triniaeth arbennig i ganser yr ysgyfaint—dim o gwbl. Fodd bynnag, gan ei fod yn achos salwch mor enfawr, yn enwedig mewn pobl o ardaloedd llai cyfoethog, mae’n haeddu cael ei drin yn deg. Mae angen i ni gael gwared ar y stigma mai clefyd ysmygwyr yw canser yr ysgyfaint. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ac yn y proffesiwn meddygol i sicrhau diagnosis cynnar gwell a fyddai’n sicrhau gwell cyfraddau goroesi. Fel y dywedodd Caroline eisoes, mae cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn yng Nghymru ymysg yr isaf yn Ewrop, ac eto gellir goroesi cam 1 canser yr ysgyfaint os ceir diagnosis yn ddigon cynnar.
Yn anffodus, mae loteri cod post yn bodoli gyda diagnosis o ganser yr ysgyfaint. Mae cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint cam 1 y gellid ei drin yn 90 y cant yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru ac mae hynny’n rhywbeth i’w gymeradwyo ac yn rhywbeth i fod yn ddiolchgar iawn amdano. Eto i gyd, os ydych yn berson tlawd, os ydych yn byw yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, mae eich gobaith o oroesi canser yr ysgyfaint yn gostwng i 74 y cant yn unig. Mae hwnnw’n fwlch anferth—yn rhaniad anferth—rhwng y rhai sy’n fwy cefnog a’r rhai sy’n llawer mwy difreintiedig. Y cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn yw’r rhai isaf yn y DU a’r ail isaf yn Ewrop.
Gall diagnosis cynnar sicrhau canlyniad hynod o wahanol. Rwyf am ddweud stori fach wrthych am rywun sydd wedi bod yn gohebu â mi. Roedd ei wraig yn ddigon ffodus i gael diagnosis cynnar oherwydd, fel y dywedodd, roedd y meddyg teulu’n meddwl y tu allan i’r bocs ac felly cafodd driniaeth yn gyflym. I gychwyn, cafodd ei wraig ddiagnosis terfynol—peth ofnadwy, o ystyried nad oedd hi ond yn 43 mlwydd oed. Ond ymatebodd yn wych i radiotherapi, cafodd oncolegydd rhagweithiol a ddaeth o hyd i lawfeddyg gwych a daeth yr hyn nad oedd yn llawdriniadwy yn llawdriniadwy. Ar hyn o bryd, mae’r sganiau, 18 mis yn ddiweddarach, yn glir. Rwy’n rhannu’r stori hon, am ei fod yn dweud, ‘Rwy’n fedrus am ddefnyddio’r rhyngrwyd; gwthiais i gael triniaeth; telais am sganiau yn Lloegr a threuliais lawer o amser yn dilyn cadwyni papur y GIG i ddod o hyd i’r driniaeth gywir neu’r arbenigwr cywir, a chefais gefnogaeth ragorol gan Sefydliad Canser yr Ysgyfaint Roy Castle’. Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes llawer o bobl sydd mor lwcus â’r dyn hwn a’i wraig.
Y trydydd pwynt rwy’n awyddus iawn i sôn amdano—. Rydym wedi siarad am gael gwared ar y stigma, rydym wedi siarad am bwysigrwydd diagnosis cynnar yn arwain at gyfraddau goroesi gwell, ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, yn sicr, mae angen i ni weld cyfran fwy o gyllid ymchwil yn mynd tuag at ganser yr ysgyfaint. Mae canser yr ysgyfaint yn cyfrannu at 22 y cant o’r holl farwolaethau canser, ond 7 y cant yn unig o gyfanswm yr arian ymchwil canser y mae’n ei gael. Yn sicr, dyma anghydraddoldeb arall eto y mae angen i ni geisio ei unioni i atal pobl mewn ardaloedd tlotach rhag bod yn fwy tebygol o farw ohono, a rhoi mwy o arian ymchwil tuag at yr achos llai ffasiynol hwn, achos ysmygwyr, gyda’r stigma hwnnw ynghlwm wrtho, ac eto, achos sy’n lladd mwy o bobl yng Nghymru na chanser y coluddyn a chanser y fron gyda’i gilydd.