Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch am eich ateb. Byddwch chi, rwy’n siŵr, yn ymwybodol bod y comisiynydd plant wedi galw ar y Llywodraeth i gyflwyno canllawiau statudol i’w gwneud hi’n ofynnol i rieni gofrestru’r ffaith eu bod nhw’n addysgu eu plant gartref. Mae hi wedi gwneud yn glir yn ddiweddar yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd y byddai hi yn barod i ddefnyddio ei phwerau statudol er mwyn annog y Llywodraeth i symud i’r cyfeiriad yna. A fyddech chi felly yn cytuno â’r comisiynydd a finnau, a nifer o bobl, rwy’n siŵr, bod pob diwrnod o oedi yn rhedeg y risg bod unigolyn arall—ac mae’n rhaid dweud ‘arall’, yn anffodus—yn cael ei adael i lawr gan y Llywodraeth yma, a'u bod nhw’n rhedeg y risg o fynd o dan y radar?