<p>Plant a Addysgir Gartref</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 1:55, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, mae'n ddiddorol ac yn braf clywed y bydd y canllawiau yn cael eu cyhoeddi yn fuan iawn oherwydd, yn fy awdurdod fy hun, ceir 114 o blant hysbys sy'n cael eu haddysgu gartref, ond dim ond un swyddog rhan-amser sy’n gweithio gyda’r rheini. A allwch chi hefyd sicrhau bod y canllawiau’n mynd i orfodi a rhoi mwy o bwysau ar awdurdodau lleol i gael perthynas rhwng nifer y plant y maen nhw’n eu gweld a’r swyddog, gan nad yw 114 ar gyfer un yn ddigonol? Mae angen i ni sicrhau bod mwy o swyddogion yn gweithio gyda’r plant hynny a addysgir gartref fel eu bod yn cael y cymorth gorau posibl.