Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Mae rhai teuluoedd yn dewis addysgu gartref o’u gwirfodd tra bod eraill yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis arall gan fod y dewisiadau eraill yn hytrach nag addysg ysgol i blentyn cythryblus yn brin. Er bod nifer yr olaf wedi gostwng, mae nifer y cyntaf wedi cynyddu o fwy na 1,000 bum mlynedd yn ôl i dros 1,500 y llynedd. Beth mae hynny'n ei ddweud am y ffydd yn ein system addysg ysgol gan eu bod nhw’n dewis addysg gartref? I’r teuluoedd hynny sy'n cofrestru ond yna’n tynnu eu plentyn yn ôl, pa mor siŵr ydych chi nad yw toriadau i’r gyllideb, fel sydd wedi digwydd yn Abertawe, wedi lleihau hawl y plentyn i lefel briodol o addysg?