2. Cwestiwn Brys: Safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:30, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Penderfyniad Llywodraeth y DU yw hwn. Rwy'n siomedig bod yr Aelod yn meddwl ei bod yn briodol ymosod ar y gyllideb cymorth tramor—rwy'n credu bod honno'n angenrheidiol hefyd. Ond bydd yn rhaid ystyried effaith y penderfyniad hwn yn llawn. Byddaf yn sgwrsio ymhellach gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU o ran yr effaith y mae wedi ei chael yng Nghymru.