Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Mae Bethan Jenkins yn codi pwynt pwysig. Cafodd ei godi, mi wn, ddoe yn y pwyllgor materion allanol. Gwn fod y Prif Weinidog wedi ymateb i'r pwynt a wnaed am y ffaith bod Theresa May wedi methu â chyflawni’r cyfarfod cyswllt hollbwysig hwn â Tata Steel yn ystod ei hymweliad ag India. Mae David Rees yn sicr wedi ei godi hefyd. Dywedodd y Prif Weinidog fod hyn yn anffodus—byddwn yn dweud ei fod yn anffodus i Brif Weinidog y DU, yn methu â chyflawni ei chyfrifoldeb, ond mae'n sicr yn anffodus ac yn achos pryder o ran y gweithlu ym Mhort Talbot. Ond credaf y gallwch chi fod yn sicr, fel y gwn y byddwch chi, o’r camau yr ydym yn eu cymryd, nid yn unig o ran ymgysylltu yn gyson â Tata—ac, yn wir, mae’r Prif Weinidog, yn ogystal â Gweinidogion eraill, wedi ymweld—ond wrth sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy i’r diwydiant dur. Wrth gwrs, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at bob AC ar 20 Hydref i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am weithgareddau sy'n ymwneud â Tata Steel, ac mae ystod o gymorth posibl sy'n cael ei hystyried i sicrhau bod y busnes yn cael ei roi ar sail fwy cadarn. Ac rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dymuno eich diweddaru am hynny.