Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd yn codi dau bwynt pwysig iawn. Mae'r cyntaf, wrth gwrs, yn ymwneud â sut y gallwn ni annog cynnydd mewn cyflenwi a bwyta llysiau a ffrwythau. Mae hyn i gyd yn rhan o'r ymagwedd cadwyn gyflenwi integredig sydd gan Lywodraeth Cymru gyda chynhyrchwyr, gan weithio gyda chynhyrchwyr, manwerthwyr, a'r sector gwasanaethau bwyd. Ond mae hyn hefyd yn cysylltu â'n rhaglen datblygu gwledig, ac yn cysylltu â’n hagenda rheoli tir cynaliadwy. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn hanfodol i’n plant a'n pobl ifanc, a'r maeth y maent ei angen ac sy’n ofynnol iddynt ac y gallant ei gael. Ac mae Peas Please, wrth gwrs, yn un ffordd o gyflawni hynny.
Credaf fod eich ail bwynt, wrth gwrs, wedi ei wneud yn dda iawn, o ran y gefnogaeth a fynegwyd ar draws y Siambr hon dros Bashir, a'r gwaith yr ydych chi, ac, yn wir, Jo Stevens AS, wedi’i wneud. Fe wnaeth ffoi o Afghanistan pan oedd yn 10 oed, fel y dywedwch, ar ôl i’w dad gael ei ladd. Mae’n fater sy’n golygu ei bod yn bwysig ein bod yn mynegi ein barn yn y Cynulliad hwn, a gwn fod pobl eisiau gwybod pa gamau sy'n cael eu cymryd i fynegi’r gefnogaeth honno yn fwy ystyrlon. Gobeithiaf yn fawr, fel yr wyf yn sicr yr ydym i gyd yn ei wneud, y bydd y sefyllfa yn cael ei datrys yn foddhaol maes o law.