Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch. Fel y gŵyr yr Aelodau, dyfarnodd yr Uchel Lys ar fater Miller yr wythnos diwethaf. Ac, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig ddydd Gwener, rwyf o'r farn bod yr achos hwn yn codi materion hollbwysig, nid yn unig ynglŷn â'r cysyniad o sofraniaeth seneddol, ond hefyd am drefniadau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli. Am y rhesymau hynny bwriadaf wneud cais i ymyrryd mewn unrhyw apêl gerbron y Goruchaf Lys.
Lywydd, rwy’n credu ei bod yn hollbwysig pwysleisio ar yr adeg hon, er gwaethaf yr helynt wleidyddol sy’n ei amgylchynu ac, yn wir, naws frawychus llawer o'r sylw yn y wasg, fel y dywedodd yr Uchel Lys ei hun, bod yr achos hwn yn ymwneud â’r gyfraith yn llwyr. Nid yw'n ymwneud â manteision ac anfanteision gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r cefndir gwleidyddol i hynny.
Naill ai trwy ddiffyg dealltwriaeth o gyfansoddiad y DU, neu am resymau eraill, cafodd dyfarniad yr Uchel Lys ei gamgynrychioli gan rai pobl. Yn ogystal â hyn, mae rhai pobl wedi dewis camgynrychioli’r ffeithiau yn fwriadol i herio annibyniaeth y farnwriaeth—un o gonglfeini ein system seneddol ddemocrataidd. Roedd yr adroddiadau am y dyfarniad yn rhai o’r papurau newydd, a dweud y gwir, yn warthus ac yn sarhad ar enw da newyddiaduraeth.
Mae strwythur democrataidd y DU ac, yn wir, y Cynulliad hwn, wedi ei adeiladu ar sylfaen rheolaeth y gyfraith ac annibyniaeth ein system farnwrol. Mae hanes diweddar trasig Ewrop yn llawn enghreifftiau o wledydd a wnaeth ddisodli rheolaeth y gyfraith a thanseilio annibyniaeth y llysoedd. Nid yw’r ffordd honno yn un ddemocrataidd ac mae'n arwain i un cyfeiriad yn unig, a byddwn yn gobeithio y bydd y rheini a allai fod wedi nodi sylwadau a datganiadau ar frys yn dymuno ystyried hynny.
Yr unig gwestiwn cyfreithiol dan sylw yw p'un a all Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel mater o gyfraith gyfansoddiadol, ddefnyddio pwerau uchelfraint i roi hysbysiad i dynnu yn ôl o’r Undeb Ewropeaidd. Wrth geisio ymyrryd mewn unrhyw apêl, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio atgyfnerthu pwysigrwydd sofraniaeth seneddol a rheolaeth y gyfraith—egwyddorion sefydledig craidd o gyfraith gyfansoddiadol Prydain. Ar sofraniaeth seneddol, mae'r dyfarniad yn dyfynnu y diweddar Arglwydd Bingham o Cornhill mai,
Sylfaen cyfansoddiad Prydain yw... goruchafiaeth y Goron yn y Senedd.
Ar reolaeth y gyfraith, mae’r llys yn cadarnhau mai sicrhau bod y Goron, hynny yw, y Llywodraeth Weithredol, yn ddarostyngedig i’r gyfraith yw sylfaen rheolaeth y gyfraith yn y Deyrnas Unedig. Felly, yn syml, mae’r achos hwn, wrth ganfod na cheir defnyddio’r uchelfraint yn absenoldeb awdurdod clir i newid y gyfraith a ddeddfwyd gan y Senedd, yn ymwneud â hanfod ein democratiaeth gynrychioliadol. Fel y dywedodd y llys, mae'r Deyrnas Unedig yn ddemocratiaeth gyfansoddiadol wedi’i fframio gan reolau cyfreithiol ac yn ddarostyngedig i reolaeth y gyfraith. Mae gan y llysoedd ddyletswydd gyfansoddiadol sylfaenol i reolaeth y gyfraith mewn gwladwriaeth ddemocrataidd i orfodi rheolau cyfraith gyfansoddiadol yn yr un modd ag y mae'r llysoedd yn gorfodi cyfreithiau eraill.
Ar ôl amlinellu'r hyn y mae’r achos yn ymwneud ag ef, dylwn hefyd nodi yr hyn nad yw'n ymwneud ag ef. Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn gwbl glir, ac rwy’n ailadrodd y farn honno yn awr, bod Llywodraeth Cymru yn parchu canlyniad y refferendwm, ac yn sicr nid yw hyn yn ymwneud â gwrthdroi’r penderfyniad hwnnw.
Er bod yr achos, hyd yma, wedi canolbwyntio ar effaith sbarduno erthygl 50 ar hawliau unigol, mae bwriad arfaethedig Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r uchelfraint yn y modd hwn yn berthnasol i berthynas gyfreithiol a chyfansoddiadol y Cynulliad hwn â'r Senedd. Mae dyfarniad yr Uchel Lys yn cyfeirio at Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 fel statud o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr, ac o ganlyniad canfu y dylai fod wedi’i heithrio rhag diddymiad tybiedig didaro gan y Senedd, neu dylid diddymu ei heffeithiau cyfreithiol trwy ddefnyddio pwerau uchelfraint. Mae y tu hwnt i bob amheuaeth bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 hefyd yn statud cyfansoddiadol. Ni ddylid defnyddio Pwerau Gweithredol i ddiystyru ei darpariaethau oni bai bod sail statudol glir ac amlwg dros wneud hynny. Nid yw'r defnydd o'r uchelfraint, yn fy marn i, yn sail gyfreithlon naill ai, yn gyntaf, i greu newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad hwn pan fo cydweddiad â chytundebau Ewropeaidd a'r gyfraith a grëwyd ganddynt yn brawf o gymhwysedd deddfwriaethol ar hyn o bryd, neu, yn ail, i sicrhau newidiadau i bwerau Gweinidogion Cymru na ellir eu harfer mewn modd anghydnaws â chyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hysbysiad o dynnu'n ôl o gytundebau ar sail yr achos a gyflwynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn anochel, felly, yn achosi newidiadau i gymhwysedd y Cynulliad a phwerau Gweinidogion Cymru.
Lywydd, mae’r cysylltiad rhwng yr egwyddor hanesyddol o sofraniaeth seneddol a'r Cynulliad fel deddfwrfa fodern, ddatganoledig yr un mor glir. Gan mai’r Senedd sydd wedi deddfu y cynllun datganoli yng Nghymru, y Senedd ac nid y Weithrediaeth ddylai oruchwylio unrhyw newidiadau, a dylai wneud hynny gyda chydsyniad y Cynulliad etholedig hwn. Ni ddylid osgoi’r berthynas gyfansoddiadol ehangach sydd wedi'i sefydlu ac sy’n parhau i ddatblygu. Yn wir, un o'r heriau a ddaw yn sgil y DU yn gadael yr UE fydd datblygu perthynas fwy effeithiol rhwng Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig, yn seiliedig ar gyd-barch at hawliau a chyfrifoldebau ei gilydd.