6. 5. Datganiad: Band Eang Cyflym Iawn — Y Camau Nesaf

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:34, 8 Tachwedd 2016

Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch i’r Gweinidog am y datganiad yma ar fand eang cyflym. Rydych yn sôn yn y datganiad bod gwaith modelu a rhagolygu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn awgrymu y bydd cronfa fuddsoddi Cyflymu Cymru yn cynhyrchu rhwng £30 miliwn a £50 miliwn erbyn 2023, wrth i rhwng 35 y cant a 50 y cant dros y cyfnod hwnnw ddewis defnyddio’r gwasanaethau. So, beth sy’n deillio o hynny? Yn ôl gwerthusiad o raglen band eang y genhedlaeth nesaf yng Nghymru, mae disgwyl i’r lefel fanteisio gyrraedd 80 y cant erbyn 2020. A allaf i ofyn felly pa asesiadau y mae’r Llywodraeth wedi’u gwneud o unrhyw arian ychwanegol a gaiff ei gynhyrchu os yw’r asesiad hwn yn gywir? Ac yn dilyn y cwestiwn ar pam nad yw pawb sydd yn gallu cael band eang yn cael band eang a’r angen weithiau i godi ymwybyddiaeth, a allaf i ofyn a fydd unrhyw ran o’r buddsoddiad ychwanegol sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddyrannu er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i ddefnyddio’r ddarpariaeth, os ydy hi ar gael? Diolch yn fawr.